Hugh Hughes (Cadfan)

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 05:19, 16 Mai 2013 gan Addbot (sgwrs | cyfraniadau)

Un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia oedd Hugh Hughes ("Cadfan" neu "Cadfan Gwynedd", 20 Awst 1824 - 7 Mawrth 1888).

Ganed Hugh Hughes ar Ynys Môn, yr hynaf o 12 o blant. Roedd yn saer coed wrth ei alwedigaeth, a phan oedd yn gweithio yng Nghaernarfon yn y 1850au dechreuodd ymgyrchu dros greu Gwladfa Gymreig. Symudodd i Lerpwl yn 1857, a daeth yn un o arweinwyr y mudiad gwladfaol yno. Yn 1861, traddododd ddarlith a gyhoeddwyd fel Llawlyfr y Wladfa Gymreig.

Teithiodd ef, ei wraig Elizabeth a nifer o blant i Batagonia gyda'r fintai gyntaf ar y Mimosa yn 1865, a dywedir mai ef oedd y cyntaf o deithwyr y Mimosa i roi ei droed ar ddaear Patagonia. Bu'n dal nifer o swyddi megis ustus heddwch yno, a phan fu farw cyhoeddodd Rhaglaw Tiriogaeth Genedlaethol Chubut bod dydd ei angladd i fod yn ddiwrnod o alar trwy'r dalaith.