Neidio i'r cynnwys

House of Cards (Netflix)

Oddi ar Wicipedia
House of Cards
Genre Drama wleidyddol
Crëwyd gan Beau Willimon
Seiliwyd ar:
House of Cards
gan Michael Dobbs
Seiliwyd ar:
House of Cards
gan Andrew Davies
Serennu Kevin Spacey
Robin Wright
Kate Mara
Corey Stoll
Michael Kelly
Sakina Jaffrey
Kristien Connolly
Sebastian Arcelus
Michel Gill
Nathan Darrow
Rachel Brosnahan
Constance Zimmer
Mahershala Ali
Elizabeth Norment
Sandrine Holt
Jayne Atkinson
Molly Parker
Gerald McRaney
Jimmi Simpson
Elizabeth Marvel
Derek Cecil
Mozhan Marno
Paul Sparks
Neve Campbell
Joel Kinnaman
Cyfansoddwr y thema Jeff Beal
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 5
Nifer penodau 65
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 43-59 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Netflix
Rhediad cyntaf yn 1 Chwefror 2013 - presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Mae House of Cards yn gyfres we-deledu wleidyddol Americanaidd a ddatblygwyd a chynhyrchir gan Beau Willimon. Mae'n addasiad o'r mini-gyfres BBC a seiliwyd ar y nofel gan Michael Dobbs. Ymddangoswyd y gyfres gyntaf gyfan, sy'n cynnwys 13 pennod, am y tro cyntaf ar y gwasanaeth ffrydio Netflix ar 1 Chwefror, 2013. Ymddangoswyd ail gyfres o 13 pennod am y tro cyntaf ar 14 Chwefror, 2014, ac ymddangoswyd y drydedd gyfres am y tro cyntaf ar 27 Chwefror, 2015. Adnewyddyd House of Cards ar gyfer pedwaredd gyfres, a fe'i hymddangoswyd am y tro cyntaf ar 4 Mawrth, 2016. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Neflix bod y gyfres wedi cael ei hadnewyddu ar gyfer pumed cyfres a ryddhawyd yn 2017. Cyhoeddwyd y byddai Willimon yn gadael ei swydd fel rhedwraig ar y rhaglen ar ddiwedd y bedwaredd gyfres.[1]

Ar 30 Hydref 2017, cyhoeddodd Netflix mai'r gyfres derfynol y byddai'r chweched cyfres, yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Spacey. Ar 3 Tachwedd 2017, cyhoeddodd Netflix bod Spacey wedi cael ei ddiswyddo o'r rhaglen. Ar 4 Rhagyfr 2017, cyhoeddodd Netflix y cynhyrchir chweched cyfres gydag wyth pennod yn gynnar yn 2018 heb Spacey. Rhyddheir y gyfres derfynol yn nes ymlaen yn 2018.

Lleolir yn y presennol yn Washington, D.C., dilyna House of Cards stori Frank Underwood (Kevin Spacey), Democrat o'r 5ed ardal gyngresol De Carolina a Chwip y Blaid Fwyafrifol yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr. Ar ôl iddo gael ei wrthod ar gyfer swydd fel Ysgrifennydd Gwladol, mae'n dechrau cynllwyno i gael swydd well, gyda chymorth ei wraig, Claire Underwood (Robin Wright). Delia'r gyfres gyda'r themâu o bragmatiaeth annhosturiol,[2] defnyddio pobl, a phŵer.[3]

Dengys y lluniau isod rhai aelodau o'r prif gast o gyfresi 1-4.

Cymeriadau a phenodau

[golygu | golygu cod]

Dengys y tabl isod actorion House of Cards, enwau eu cymeriadau, os ydynt wedi bod yn 'brif' aelod o'r cast neu'n aelod 'gwadd' a'r nifer o benodau y maent wedi ymddangos ynddynt.

House of Cards
Actor Cymeriad 1 2 3 4 5 6 Nifer o benodau Gwybodaeth bellach
Kevin SpaceyFrancis UnderwoodPrifPrifPrifPrifPrif52 Gŵr i Claire
Chwip yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr (cyfres 1)
Is-arlywydd yr Unol Daleithiau (cyfres 2)
46ain Arlywydd yr Unol Daleithiau (cyfres 3-4)
Robin WrightClaire UnderwoodPrifPrifPrifPrifstyle="background-color:#99FF99"52 Gwraig i Francis
Pennaeth y 'Fenter Ddŵr Glan' (cyfres 1)
Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau (cyfres 2)
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau (cyfres 3-4)
Kate MaraZoe BarnesPrifGwaddGwadd13 Gohebydd The Washington Herald ac wedyn Slugline.
Corey StollPeter RussoPrifGwadd12 Cyngreswr Democrataidd
Michael KellyDoug StamperPrifPrifPrifPrif51 Cyfrinachddyn cyffredinol i Francis
Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Underwood
Sakina JaffreyLinda VasquezPrifPrif18 Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Walker
Kristen ConnollyChristina GallagherPrifPrif17 Cynorthwy-ydd personol i'r Arlywydd Walker
Sebastian ArcelusLucas GoodwinPrifPrifGwadd17 Golygydd The Washington Herald
Boris McGiverTom HammerschmidtPrifGwaddPrif14 Prif olygydd The Washington Herald
Constance ZimmerJanine SkorskyPrifPrifGwadd13 Gohebydd The Washington Herald
Mahershala AliRemy DantonPrifPrifPrifPrif33 Cyfreithiwr a lobïwr (cyfres 1-2)
Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Underwood (cyfres 3)
Sandrine HoltGillian ColePrifGwadd10 Arweinydd y sefydliad 'World Well'
Michel GillGarrett WalkerPrifPrifGwadd24 Cyn-lywodraethwr Colorado
45ain Arlywydd yr Unol Daleithiau
Gerald McRaneyRaymond TuskPrifPrifGwadd15 Biliwnydd a gŵr busnes
Nathan DarrowEdward MeechumPrifPrifPrifGwadd35 Gwarchodwr a gyrrwr i Francis a Claire
Dan ZiskieJim MatthewsPrif4 Cyn-lywydd Pennsylvania
Is-arlywydd yr Unol Daleithiau
Ben DanielsAdam GallowayPrifGwadd7
Jayne AtkinsonCatherine DurantGwaddGwaddPrifPrif23 Seneddwraig Ddemocrataidd Louisiana
Rachel BrosanhanRachel PosnerGwaddPrifGwaddPrif19 Putain a ddefnyddiwyd gan Francis a Doug
Reg E. CatheyFreddyGwaddGwaddGwaddGwadd15 Cyfrinachddyn a ffrind go iawn i Francis
Perchennog y tŷ bwyta 'Freddy's BBQ'
Molly ParkerJackie SharpPrifPrifPrif25 Cyngeswraig Ddemocrataidd Califfornia
Dirprwy Chwip y Blaid Fwyafrifol (cyfres 2)
Chwip y Blaid Fwyafrifol (cyfres 3)
Jimmi SimpsonGavin OrsayPrifPrif17 Haciwr cyfrifiaduron
Derek CecilSeth GraysonGwaddPrifPrif30 Ysgrifennydd y Wasg i'r Is-arlywydd Underwood
Mozhan MarnòAyla SayyadPrifGwadd11 Gohebydd Wall Street Telegraph
Elizabeth MarvelHeather DunbarGwaddPrifPrif22 Cyfreithwraig Gyffredinol yr Unol Daleithiau (cyfres 2)
Ceisio am yr enwebiad Democrataidd ar gyfer Arlywydd (cyfres 3-4)
Kate Lyn SheilLisa WilliamsPrifGwadd9
Lars MikkelsenViktor PetrovPrifPrif7 Arlywydd Rwsia
Kim DickensKate BaldwinPrifGwadd8 Prif ohebydd gwleidyddol y Wall Street Telegraph
Paul SparksThomas YatesPrifPrif15 Awdur llyfr am y rhaglen swyddi 'America Works'
Neve CampbellLeAnn HarveyPrif13 Ymgynghorydd gwleidyddol
Joel KinnamanWill ConwayPrif8 Gŵr i Hannah
Llywydd Efrog Newydd
Dewisddyn Gweriniaethol ar gyfer Arlywyddd
Dominique McElligottHannah ConwayPrif7 Gwraig i Will
Colm FeoreGeneral BrockhartPrif5
Ellen BurstynElizabeth HalePrif5

Gwobrau ac enwebiadau

[golygu | golygu cod]

Ar gyfer ei chyfres gyntaf, derbyniodd House of Cards naw enwebiad Gwobr Primetime Emmy, gan gynnwys Cyfres Ddrama Ragorol, Prif Actor Rhagorol i Spacey, Prif Actores Ragorol i Wright, a Cyfarwyddo Rhagorol i David Fincher. Hon yw'r gyfres wreiddiol ar-lein-yn-unig i dderbyn enwebiadau Emmy sylweddol.[4] Mae'r gyfres hefyd wedi derbyn pedwar enwebiad Gwobr Glôb Aur ac enillodd Wright yr Actores Orau - Cyfres Deledu Ddrama, y wobr actio sylweddol gyntaf ar gyfer cyfres we-deledu ar-lein-yn-unig. Ar gyfer ei hail gyfres, derbyniodd 13 enwebiad Gwobr Primetime Emmy, gan gynnwys Prif Actor Rhagorol (Spacey), Prif Actores Orau (Wright), Cyfarwyddo Rhagorol (Carl Franklin), Cyfres Ddrama Ragorol, ac Ysgrifennu Rhagorol (Willimon).[5] Derbyniodd yr ail gyfres dri enwebiad Gwobr Glôb Aur, gyda Spacey yn ennill y Wobr ar gyfer yr Actor Gorau - Cyfres Deledu Ddrama.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Schneider, Michael (13 Chwefror 2014). "House of Cards Creator Beau Willimon on the D.C. Thriller's Second Season". TV Guide. Cyrchwyd 2 Medi 2015.
  2. Graves, Lucia (19 Chwefror 2014). "Frank Underwood and a Brief History of Ruthless Pragmatism". National Journal. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2014.
  3. Cronk, Jordan (29 Ebrill 2013). "'Doing bad for the greater good': Kevin Spacey, Beau Willimon and Co. Look Back at 'House of Cards' Season One". Indiewire. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2014.
  4. Stelter, Brian (18 Gorffennaf 2013). "Netflix Does Well in 2013 Primetime Emmy Nominations". The New York Times. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2013.
  5. Lowry, Brian (10 Gorffennaf 2014). "2014 Emmy Awards: 'Game of Thrones,' 'Fargo' Lead Nominations". Variety. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2014.