Horizon (Pŵer Niwclear)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Pŵer Niwclear Horizon yn gwmni ynni yn y Deyrnas Unedig. Mae'r cwmni yn datblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd pŵer niwclear.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Horizon yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Hitachi, Ltd. Bydd y cyntaf o’r gweithfeydd pŵer niwclear arfaethedig hyn yn Wylfa Newydd ar arfordir gogleddol Ynys Môn, ger pentref Cemaes. Mae’r ail safle wrth ymyl Oldbury-on-Severn yn Ne Swydd Gaerloyw, ger Thornbury. Bwriad Horizon yw cynhyrchu o leiaf 5,400MW o gapasiti gorsafoedd pŵer newydd i’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ddigon o drydan i tua 10 miliwn o gartrefi. Bydd y prosiectau’n creu hyd at 850 o swyddi parhaol ar bob un o’n safleoedd ar Ynys Môn ac yn Oldbury, gyda 4,000 o weithwyr yn y gweithlu adeiladu y rhan fwyaf o'r amser. Bydd y buddsoddiad hwn yn Cyflenwadau ynni carbon isel y wlad ac yn helpu i ddatblygu sgiliau lleol a rhagolygon newydd i gyflenwyr Prydeinig. [1]

Dyfodol[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyfodol yw prosiect sydd yn ymwneud â phobl ifanc mewn addysg. Nod Horizon yw eu hysbrydoli i archwilio meysydd STEM (sef, Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.) Y nod yw hefyd gweithio â nhw er mwyn iddynt gael gwybod am gyfleoedd swyddi gyda Horizon yn y dyfodol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Horizon Pŵer Niwclear". 23.8.17. https://www.horizonnuclearpower.com/hafan.