Holly Hale
Gwedd
Holly Hale | |
---|---|
Ganwyd | 28 Tachwedd 1990 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | model, ymgeisydd mewn cystadleuaeth modelu |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Model Gymreig ydy Holly Hale (ganwyd 28 Tachwedd 1990) a gafodd ei choroni yn Miss Universe Great Britain yn 2012. Cafodd ei geni yn Llundain ac mae hi rwan yn byw yn Llanelli.
Roedd hi'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd. Hi oedd yr ail Gymraes i ennill y teitl Miss Universe Great Britain. Dywedodd: "Miss Universe ydy'r pasiant cyntaf i mi drio a fedra i ddim credu bod fi di ennill!"[1]
Cynrychiolodd Brydain yn Miss Universe 2012, ond chafodd hi ddim lwc.[2]
Mae ganddi ddwy chwaer ifancach a'i diddordebau hi ydy chwarae'r piano a tynnu llun. Mae'n awyddus i fod yn seicolegydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Miss Universe Archifwyd 2017-01-05 yn y Peiriant Wayback; accessed Mai 2016
- ↑ Gwefan Miss Universe Archifwyd 2017-01-05 yn y Peiriant Wayback; adalwyd Mai 2016