Hokkaido (ci)
Jump to navigation
Jump to search
Ci hela sy'n tarddu o Japan ac sy'n edrych yn debyg i sbits yw'r Hokkaido. Dywed iddo ddisgyn o gŵn canolig eu maint a ddaeth i Hokkaido yn sgil datblygiad cysylltiadau rhwng yr ynys honno a Tohoku (gogledd Honshu) yn ystod oes Kamakura (12g). Defnyddiodd yr Ainu, brodorion Hokkaido, y brîd hwn i hela eirth ac anifeiliaid eraill. Datblygodd yn gi cryf a chydnerth er mwyn ymdopi â'r oer a'r eira trwm ym mynyddoedd Hokkaido.[1]