Hieronymus Bock
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Hieronymus Bock | |
---|---|
![]() Darluniad o Hieronymus Bock (1546). | |
Ganwyd | 1498 ![]() Bruchsal ![]() |
Bu farw | 21 Chwefror 1554 ![]() Hornbach ![]() |
Dinasyddiaeth | Prince-Bishopric of Speyer ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | botanegydd, gweinidog yr Efengyl, pryfetegwr, meddyg ![]() |
Offeiriad, meddyg, a botanegwr o Almaenwr oedd Hieronymus Tragus Bock (1498 – 21 Chwefror 1554). Arloesodd maes modern botaneg, gan ddefnyddio arsylwadau a disgrifiadau gwyddonol yn lle dulliau ieithegol yr hen ysgolwyr.
Ni wyddys llawer am ei fywyd. Ganwyd yn Heidersbach, a bu'n gweithio yn Zweibrücken o 1523 i 1533. Symudodd i ganoniaeth Hornbach, ond bu'n rhaid iddo adael ym 1550 am iddo gefnogi Martin Luther. Gweithiodd am gyfnod byr yn feddyg personol i Ddug Nassau, a dychwelodd i Hornbach ym 1551.

Esiampl o dudalennau New Kreuterbuch yn argraffiad Johan Rihel, Strasbwrg (1577 neu 1580)
Yn ei gampwaith New Kreuterbuch ("Llysieulyfr Newydd"; 1539), ysgrifennodd disgrifiadau manwl o ryw 700 o blanhigion, ac yn argraffiad 1546 cynhwysodd darluniadau manwl ohonynt, yn nhrefn ar sail tebygrwydd eu strwythur.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Hieronymus Bock. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Mai 2017.