Hiclys Donn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Hiclys donn)
Hiclys Donn
Anastrophyllum donnianum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Scapaniaceae
Genws: Anastrophyllum
Rhywogaeth: A. donnianum
Enw deuenwol
Anastrophyllum donnianum

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys donn (enw gwyddonol: Anastrophyllum donnianum; enw Saesneg: Donn's notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Yr unig rywogaethau tebyg yw Hiclys alpaidd (A. alpinum) ac A. joergensenii ond mae gan y ddau ddail cymharol fyrrach ac ehangach nag Hiclys donn (A. donnianum). Yn aml, tyf gerllaw'r Hiclys alpaidd.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Hiclys donn (A. donnianum) yw un o'n llysiau'r afu mwyaf hyfryd o ran pryd a gwedd. Mae'n sgleiniog, yn frowngoch tywyll, ac mae ganddo ddail ceugrwm, hir, anghymesur. Mae'n tyfu fel clwmp neu dywarch rhydd o goesynnau unionsyth ymhlith llysiau'r afu mawr eraill. Mae'r coesynnau yn 1–4 mm o led, mae'r dail tua 1 mm o led a thua 1.5mm o hyd.[1]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Hiclys Donn gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 3 Mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.