Hewitt Pearson Montague Beames

Oddi ar Wicipedia
Hewitt Pearson Montague Beames
Hen drên.
Locomotif Beames Dosbarth G2
Ganwyd9 Mai 1875 Edit this on Wikidata
Monkstown, County Dublin Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1948 Edit this on Wikidata
Crewe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Alma mater
  • Dover College Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Swyddchief mechanical engineer Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • London and North Western Railway
  • London, Midland and Scottish Railway Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Roedd Hewitt Pearson Montague Beames yn Brif Beiriannydd y Rheilffordd Llundain a’r Gogledd-orllewinol rhwng 1920 a 1922

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd ar 9 Mai 1875 ym Monkstown, Dulyn ac addysgwyd yn Ysgol Corrig, Dún Laoghaire, Coleg Dover ac Academi Filwrol Crawley. Daeth yn brentis i Francis William Webb yng Gweithdy Cryw. Chareuodd Rygbi dros Swydd Gaerhirfryn a chafodd wahoddiad i deithio Canada gyda thim rygbi Iwerddon. Cafodd wasanaeth yn y fyddin yn ystod yr Ail Rhyfel Boer rhwng 1900-1901 cyn fynd yn ôl i Gryw. Roedd o’n gynorthywywr i’r Uwchwyliwr Allanol, Cryw rhwng 1902 a 1909, yn gwneud gwaith pwmpio, ysgeintio a gwaith arall gyda pheiriannau’r dociau. Rhwng 1909 a 1914 roedd o’n gynorthwywr i Charles Bowen Cooke, prif Beiriannydd y Rheilffordd. Ymunodd â Chwmni Reilffordd y Peiriannwyr Brenhinol ym 1914[1]. Daeth o’n Dirprwy Brif Peiriannydd y rheilffordd ym 1919, a Phrif Beiriannydd ym 1920. Dim ond un ond un locomotif newydd greodd Beames.[2]

Ymunodd Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog â’r Rheilffordd Llundain a’r Gogledd-orllewinol ym 1922 a daeth George Hughes yn brif beiriannydd y cwmni newydd; daeth Beames yn beiriannydd i’r rhan gorllewinol. Daeth o’n ddirprwy brif beirianydd ym mis Rhagfyr 1930. Gadawodd y rheilffordd ar 30 Medi 1934. Cafodd CBE ym 1946. Bu farw ar 5 Mawrth 1948.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]