Heuldro
Jump to navigation
Jump to search
Dyddiad ac amser (UTC) heuldroadau a chyhydnosau | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
blwyddyn | Cyhydnos Mawrth Alban Eilir |
Heuldro Mehefin Alban Hefin |
Cyhydnos Medi Alban Elfed |
Heuldro Rhagfyr Alban Arthan | ||||
dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser | |
2016 | 20 | 04.30 | 20 | 22.34 | 22 | 14.21 | 21 | 10.44 |
2017 | 20 | 10.28 | 21 | 04.24 | 22 | 20.02 | 21 | 16.28 |
2018 | 20 | 16.15 | 21 | 10.07 | 23 | 01.54 | 21 | 22.22 |
2019 | 20 | 21.58 | 21 | 15.54 | 23 | 07.50 | 22 | 04.19 |
2020 | 20 | 03.49 | 20 | 21.43 | 22 | 13.30 | 21 | 10.02 |
2021 | 20 | 09.37 | 21 | 03.32 | 22 | 19.21 | 21 | 15.59 |
2022 | 20 | 15.33 | 21 | 09.13 | 23 | 01.03 | 24 | 21.48 |
2023 | 20 | 21.24 | 21 | 14.57 | 23 | 06.49 | 22 | 03.27 |
2024 | 20 | 03.06 | 20 | 20.50 | 22 | 12.43 | 21 | 09.20 |
2025 | 20 | 09.01 | 21 | 02.42 | 22 | 18.19 | 21 | 15.03 |
Mae heuldro (hefyd heulsaf neu heulsafiad yn digwydd dwy waith y flwyddyn, pan mae echelin y Ddaear yn gogwyddo bellaf tuag at, neu oddi wrth yr haul, gan achosi i'r haul fod yn bellach i'r gogledd neu i'r de ganol-dydd.
Ceir heuldro'r haf (hefyd "heulsafiad yr haf" neu "hirddydd yr haf") pan fo'r dydd hiraf (tua Mehefin 21ain) a "heuldro'r gaeaf" (hefyd "heulsafiad y gaeaf" neu "byrddydd y gaeaf") pan fo'r dydd ar ei fyraf (Rhagfyr 21ain, fel arfer).
Mae'r term hefyd yn cael ei ddenyddio yn fwy cyffredinol i gyfeirio at y dyddiad neu'r diwrnod mae hyn yn digwydd. Mae'r heuldroadau ynghyd â chyhydnosau yn gysylltiedig â'r tymhorau. Mewn rhai diwylliannau mae'r heuldroadau yn nodi dechrau, canol neu ddiwedd tymor.