Hesperides (barddoniaeth)

Oddi ar Wicipedia
Hesperides
Enghraifft o'r canlynolblodeugerdd, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurRobert Herrick Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Saesneg Modern Cynnar Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1648 Edit this on Wikidata
Genrebarddoniaeth Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata


Tudalen flaen Hesperides.

Casgliad o farddoniaeth gan y bardd Robert Herrick yw Hesperides a gyhoeddwyd gyntaf yn 1648. Dyma'r unig lyfr a gyhoeddwyd ganddo yn ystod ei oes. Mae tua 1,400 o gerddi ac epigramau yn y gyfrol i gyd, y mwyafrif ohonynt yn fyr iawn. Er iddo ysgrifennu cerddi eraill, a gofnodir mewn coflyfrau o'i gyfnod yn Llundain yn y 1620au, mae amlygrwydd a theilyngdod Herrick ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn seiliedig yn gyfan gwbl ar y casgliad hwn.

Mae'r gyfrol yn llawn cerddi serch, yn enwedig rhai a chanddynt neges carpe diem, a cherddi natur. Mae'r argraffiad cyntaf yn cynnwys 1,130 o gerddi dan y teitl Hesperides ei hun, ac ynghlwm wrthi mae'r cylch o 272 o gerddi ar bynciau crefyddol a elwir "His Noble Numbers". Fel rheol, caiff y cylch hwnnw ei ystyried yn rhan o Hesperides, ac felly 1,402 o gerddi sydd yn y casgliad i gyd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Leah S. Marcus, "Robert Herrick" yn The Cambridge Companion to English Poetry: Donne to Marvell, golygwyd gan Thomas N. Corns (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2004), tt. 171–72.