Hen Gapel Moreia

Oddi ar Wicipedia
Hen Gapel Moreia
Mathcapel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlangefni Edit this on Wikidata
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.254649°N 4.304653°W Edit this on Wikidata
Cod postLL77 7HL Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadMethodistiaid Calfinaidd Edit this on Wikidata

Mae Hen Gapel Fethodistaidd Gymreig Moreia wedi'i lleoli yn Llangefni, Ynys Môn. Fe'i codwyd yn yr 1800au (neu 1805) ac fe'i hailadeiladwyd ar ei ffurf presennol yn 1836. Er ei fod wedi cael ei addasu'n fawr, mae'r capel yn edrych fel ei fod wedi'i adeiladu yn arddull pensaernḯaeth frodorol hwyr. Ym 1962 darlledodd y BBC wasanaeth a recordiwyd yng Nghapel Moreia[1]. Erbyn 1999 roedd Moreia'n cael ei ddefnyddio fel garej.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r capel yn gysylltiedig â John Elias ond wedi'i addasu'n fawr dros y blynyddoedd.

Mae ar siâp petryal, gyda tho llechi uchel (wedi'i ail-doi) a Waliau cerrig dan rendr garw modern wedi'i baentio. Nid oes agoriadau gwreiddiol i'w gweld yn allanol. Mae 3 ffenestr wedi'u blocio ym mhob wal. Erbyn hyn, garej (ar gyfer ceir Ford), wedi ei gosod dipyn yn ôl o linell y stryd yw'r adeilad.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Radio Times. G. Newnes. 1962. t. 12.
  2. 2.0 2.1 Says, Christinem. "Hen Capel Moreia". Welsh Chapels (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-12.