Hen Gapel-y-Seintiau, Abergele

Oddi ar Wicipedia
Hen Gapel Y Seintiau
Hen Gapel-y-Seintiau, yr adeilad unllawr, gyda thafarn deulawr y Bull ar y chwith ac yn y cefn.
Mathcapel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAbergele Edit this on Wikidata
SirConwy Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.282965°N 3.582673°W Edit this on Wikidata
Cod postLL22 7AP Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadEglwys y Bedyddwyr Edit this on Wikidata

Capel cynnar Cymreig y Mormoniaid yn Abergele, Sir Gonwy, oedd Hen Gapel-Y-Seintiau.[1]

Adeiladwyd y capel ym 1849 ac wedi i'r sefydlwyr fudo i Ogledd America, daeth yn gapel i'r Bedyddwyr ym 1856. Caeodd y capel ym 1863 pan gafodd ei defnyddio fel warws, yna' fwthyn, yn storfa gwirodydd cyn dod yn rhan o Westy'r Bull Hotel, y drws nesaf.[2] Prif sefydlydd y capel oedd saer maen o'r enw John Parry (1817-1882) a anwyd yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint.[3]

Wedi cyfnod o erlid y Mormoniaid gan Fethodistiaid lleol, mudodd John Parry i Utah, Gogledd America, ym 1856 ar y llong Samuel Curling.[3]

Siaradwyr Cymraeg oedd llawer o'r 80 neu ragor o aelodau. Fe'u hanogwyd i fudo i Seion Newydd (New Zion), yn Salt Lake City. Rhwng 1852-1864 mudodd 55 o Formoniaid o Abergele, gyda dau ohonynt yn marw ar y daith i Utah.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2024-02-12.
  2. "Bull Hotel, Abergele". www.bullhotelabergele.co.uk. Cyrchwyd 2024-02-12.
  3. 3.0 3.1 "The Welsh Saints Project". www.welshsaints.byu.edu. Cyrchwyd 2024-02-12.