Neidio i'r cynnwys

Helvetica

Oddi ar Wicipedia
Helvetica
Enghraifft o:teulu o ffurfdeipiau Edit this on Wikidata
Mathsans-serif Edit this on Wikidata
Rhan oPostScript core fonts level 2, PostScript core fonts level 1 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1957 Edit this on Wikidata
System ysgrifennuy sgript Ladin, Arabic script Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/012vgd edit this on wikidata
QuoraHelvetica edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffurfdeip sans-seriff yw Helvetica a ddyluniwyd gan Max Miedinger ac Eduard Hoffmann, ac a gyhoeddwyd gan ffowndri-teip Haas yn y Swistir yn 1957. Daeth Helvetica yn gyflym yn un o ffurfdeipiau mwyaf poblogaidd diwedd yr 20g, yn boblogaidd ymysg dylunwyr graffig mewn sawl maes – hysbysebu, pecynnu, hunaniaeth gorfforaethol, arwyddion ac ati.

Fe'i crëwyd gan Miedinger a Hoffmann i ddiwallu'r angen am arddull llythrennu ddi-ffws, braidd yn niwtral, yn gydnaws â llinellau glân dylunio graffig modernaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Fe'i henwyd yn wreiddiol yn "Neue Haas Grotesk" (Grotesk yw'r enw Almaeneg am sans-serif), ond ar ôl iddo gael ei drwyddedu i gwmni Linotype cafodd ei ailenwi'n "Helvetica" (Lladin: "perthyn i'r Swistir") yn 1959.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
  • Helvetica, ffilm dogfen 2007 gan Gary Hustwit

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Helvetica", Fonts in Use, adalwyd 18 Mehefin 2026