Helfa'r Heli

Oddi ar Wicipedia
Helfa'r Heli
Teitl amgen Catch of the Day
Cyfarwyddwr Geraint Huw Reynolds
Cynhyrchydd Geraint Huw Reynolds
Ysgrifennwr Sarah Reynolds (cyfieithiad Elinor Wyn Reynolds)
Cerddoriaeth Owain Wilson
Sinematograffeg Michael Blackwood Barnes
Sain Geraint Davies & Robert Thomas
Dylunio Luned Gwawr Evans
Amser rhedeg 15 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Ffilm fer Gymraeg yw Helfa'r Heli a gynhyrchwyd a chyfarwyddwyd gan Geraint Huw Reynolds.

Mae Geraint wedi gweithio ers 20 mlynedd fel golygydd ar ffilmiau a rhaglenni dogfen ond dyma'r ffilm fer gyntaf iddo gynhyrchu. Mae'r ffilm yn addasiad o'r stori fer Catch of the Day a ysgrifennwyd gan ei wraig Sarah Reynolds, a enillodd wobr Stori Fer Rhys Davies yn 2015.[1]

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Mae'r stori'n troi o gwmpas y berthynas rhwng dau berson sydd wedi "cyfarfod yn y môr" pan oedden nhw'n ifanc gyda’r ddau’n heneiddio ac yn profi ôl-fflachiadau.

Cynhyrchiad[golygu | golygu cod]

Cafodd ei ffilmio mewn cwt bad achub yn Nhrefdraeth yng ngogledd Sir Benfro ac ar draeth Broadhaven South.

Cast a chymeriadau[golygu | golygu cod]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Gwobr Digwyddiad Categori Derbynnydd Canlyniad
2017
Ffilm Fer Brydeinig Orau
Gŵyl Ffilmiau Byr Caer-wynt
Geraint Reynolds Buddugol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]