Helen Ogston

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Helen Ogston
Helen-Ogston-suffragette (cropped).jpg
Ganwyd 1883 Edit this on Wikidata
Aberdeen Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Gorffennaf 1973 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
  • Prifysgol Aberdeen Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Swffraget Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Helen Ogston (ganwyd 1883) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am dorri ar draws y Prif Weinidog David Lloyd George mewn cyfarfod yn yr Albert Hall, gan atal stiwardiaid y digwyddiad rhag ei thaflu allan, drwy eu chwipio gyda chwip ci.[1]

Fe'i ganed yn Aberdeen yn 1883, yn ferch i athro yn y brifysgol leol.[1] Bu'n briod ddwywaith: y tro cyntaf i Dr Eugene Dunbar Townroe ar 4 Mai 1912 yng Ngholeg y Brenin, Old Aberdeen a'r ail dro i Granville Havelock Bullimore ar 3 Ionawr 1929 yn Norwich NorfolK. Adnabyddid hi am gyfnod fel Helen Charlotte Townroe ac fel Helen Charlotte Bullimore.

Graddiodd mewn gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberdeen cyn symud i'r de gyda'i chwaer iau. Daeth y ddau ohonynt yn aelodau o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (Women's Social and Political Union) ym 1906.

Yr ymgyrchydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 5 Rhagfyr 1908 mynychodd gyfarfod cyhoeddus lle'r oedd David Lloyd George yn siarad yn yr Albert Hall. Trefnwyd y cyfarfod gan Ffederasiwn Rhyddfrydol y Menywod ac er bod Lloyd George yn siarad, roedd amheuaeth y byddai'n osgoi mynd i'r afael â'r mater pwysicaf y dydd, sef yr hawl i fenywod bleidleisio.[2]

Ceisiodd y stiwardiaid ei throi allan ond tynnodd chwip ci a oedd wedi'i guddio o dan ei chot. Ymddangosodd y stori yn y papurau newydd lleol ac o ganlyniad i'r digwyddiad hwn ataliwyd menywod rhag mynychu cyfarfodydd areithio Lloyd George. Nododd Ogston ei rhesymau dros ddefnyddio'r chwip:

"a man put the lighted end of his cigar on my wrist; another struck me in the chest. The stewards rushed into the box and knocked me down. I said I would walk out quietly, but I would not submit to their handling. They all struck at me. I could not endure it. I do not think we should submit to such violence. It is not a question of being thrown out; we are set up on and beaten."[3][4]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]