Helen Cruickshank

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Helen Cruickshank
Ganwyd 15 Mai 1886 Edit this on Wikidata
Montrose Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata (88 oed)
Caeredin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Alban Yr Alban
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr, Swffragét Edit this on Wikidata
Mudiad Scottish Renaissance Edit this on Wikidata

Bardd, ffeminist a swffragét Albanaidd oedd Helen Burness Cruickshank (15 Mai 1886 - 2 Mawrth 1975) sydd hefyd yn cael ei chofio fel bardd. dywedir mai ei chartref ym mhentref bychan Corstorphine, gorllewin Caeredin, oedd pencadlys yr ymgyrch dros hawliau merched yn yr Alban.[1]

Fe'i ganed yn Monadh Rois (Montrose) a bu farw yng Nghaeredin.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yn Ysbyty Meddwl Sunnyside, Hillside, Monadh Rois, Angus y'i ganed, yn un o'r tai ar gyfer y staff, gan fod ei thad George Cruickshank, yn ofalwr yn ysbyty yn Sunnyside. Helen oedd yr ieuengaf o dri i'w thad George (1845-1924) a'i mam Sarah Wood (1850-1940), morwyn ddomestig o Monadh Rois.[2][3][3]

Addysgwyd Helen yn ysgol bentref Hillside pan oedd yn bedair oed, cyn mynychu Academi Montrose yn ddeg oed gyda'i dau frawd hŷn.[3] Bob blwyddyn, treuliwyd gwyliau haf y teulu mewn cabanau yn Glenesk, yn Ucheldir yr Alban, lle dysgodd George ei blant am natur, datblygodd Helen yr hoffter o ddringo a cherdded, diddordeb a arhosodd gyda hi drwy gydol ei bywyd. Roedd gwyliau blynyddol teuluoedd yn rhan allweddol o fewn barddoniaeth Cruickshank, gyda chyfeiriadau aml at y tirluniau a phobl Angus.[3]

Er i Helen ennill gwobrau ym mhob pwnc yn yr ysgol, ni allai ei thad fforddio ei hanfon i'r Brifysgol er i'r Rheithor lleol ei chynghori i wneud hynny, a gadawodd Helen yr ysgol yn bymtheg oed gan sefyll arholiadau'r Gwasanaeth Sifil. Gwaith cyntaf Cruickshank oedd yn y Post Office Savings Bank yn Llundain o 1903 i 1912, ac yn ystod y cyfnod hwn cynydodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth a'r ymgyrch dros hawliau merched i bleidleisio. Ymunodd Helen ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched ac ymgyrchodd dros yr achos trwy ymuno â gorymdeithiau a sialcu'r palmentydd.[1][3]

Caeredin[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1912, cafodd Helen gynnig swydd yng Nghaeredin mewn yswiriant iechyd (rhan o Llywodraeth Lloegr) a derbyniodd y swydd. Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth, ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd Cruickshank gael rhywfaint o lwyddiant wrth gyhoeddi ei barddoniaeth, weithiau dan ffugenwau yn The Glasgow Herald.[3]

Bu farw tad Helen yn 1924, ac fel yr unig ferch, tybiwyd y byddai Helen yn cymryd gofal o'i mam - a oedd yn golygu y byddai'n rhaid iddi ildio ei hawydd i briodi. Ni allai menyw a weithiodd yn y gwasanaeth sifil barhau i weithio ar ôl iddynt briodi. Rhoddodd Helen orau i rentu ei fflat a phrynnodd 'Dinnieduff', tŷ-semi ar Fryn Corstorphine.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Helen Cruickshank (1886–1975) - Edinburgh City of Literature" (yn en-GB). Edinburgh City of Literature. http://www.cityofliterature.com/a-to-z/helen-cruickshank-1886-1975/.
  2. "Cruickshank, Helen Burness". Oxford Dictionary of National Biography. 23 September 2004. Cyrchwyd 25 April 2018.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 "Helen Cruickshank | Poetry | Scottish Poetry Library". www.scottishpoetrylibrary.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-02.