Heidi
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Johanna Spyri |
Gwlad | Y Swistir |
Iaith | Almaeneg, Almaeneg y Swistir |
Dyddiad cyhoeddi | 1880 |
Genre | nofel i blant |
Lleoliad cyhoeddi | Y Swistir |
Prif bwnc | plentyn amddifad |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Y Swistir, yr Almaen, Alpau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Erthygl am y nofel yw hon. Gweler hefyd Heidi (gwahaniaethu).
Nofel Almaeneg am ddigwyddiadau ym mywyd geneth ifanc sy'n byw yng ngofal ei thaid yn Alpau'r Swistir yw Heidi (teitl llawn gwreiddiol: Heidis Lehr- und Wanderjahre "Blynyddoedd Crwydro a Dysgu Heidi"). Ysgrifennwyd y nofel, a gyhoeddwyd yn 1880 ac a ystyrir yn un o glasuron llenyddiaeth plant, gan yr awdures Swisaidd Johanna Spyri. Cafwyd dau olyniant Saesneg gan Charles Titten, a gyfieithodd y nofel Heidi o'r Almaeneg i'r Saesneg, sef Heidi Grows Up (Heidi yn tyfu i fyny) a Heidi's Children (Plant Heidi).
Gwnaethpwyd addasiad o'r nofel i'r Gymraeg gan Gwenno Hywyn. Gwasg Mynydd Mawr a gyhoeddodd y gyfrol yn y gyfres Clasuron Mawr y Plant a hynny yn 1983.