Hebog Tramor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hebog Tramor
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Falconidae
Genws: Falco
Rhywogaeth: F. peregrinus
Enw deuenwol
Falco peregrinus
Tunstall, 1771

Yr Hebog Tramor (Falco peregrinus) yw'r mwyaf adnabyddus o deulu'r Hebogiaid. Mae rhwng 35 a 50 cm o hyd a 83 hyd 113 cm ar draws yr adenydd; mae'r iâr yn fwy na'r ceiliog fel rheol. Adar yw ei brif fwyd: adar cymharol fychain hyd at faint hwyaden. Mae'n nythu ar greigiau fel rheol, un ai ger y môr neu yn y mynyddoedd, ond gall hefyd nythu ar adeiladau uchel. Yn aml clywir yr alwad "kek-kek-kek-kek" pan fo rhywun yn dynesu at y nyth.

Ystyrir yr hebog tramor yn un o'r adar sy'n medru hedfan gyflymaf; dywedir y gall gyrraedd 300 cilometr yr awr (200 milltir yr awr) pan fo'n disgyn o uchder i geisio dal aderyn, ond nid yw hyn wedi ei brofi.

Mae'r hebog tramor yn aderyn cyffredin yng Nghymru, fel rheol yn nythu yn y mynyddoedd ac yn treulio'r gaeaf o gwmpas glannau'r môr.

Bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Adar maint colomen (colomennod dof, ysguthanod, grugieir, adar môr) y mae'n plymio arnynt oddiuchod yn ddiarwybod iddynt. Cofnodyd eithriad i hyn ar 30 Hydref 1992 am 5yp:

Clogwyn Gallt y Wenallt, Nant Gwynant; grwp o tua 10 o slumod o gwmpas y clogwyn ac un, wedyn dau, hebog tramor yn plymio amdan nhw, y fenyw bron a dal un ond methiant fu yn y diwedd[1]

Is-rywogethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir nifer o is-rywogaethau:

  • Falco peregrinus peregrinus - gorllewin Ewrasia.
  • F. p. anatum ffurf fynyddig.
  • F. p. brookei - de Ewrop, y Caucasus.
  • F. p. calidus - ffurf fudol, yn nythu ar y Twndra gogleddol.
  • F. p. ernesti - Seland Newydd.
  • F. p. macropus - Awstralia.
  • F. p. madens ynysoedd Cabo Verde
  • F. p. pealei - Gogledd America.
  • F. p. peregrinator - de Asia.
  • F. p. tundrius - Twndra arctig Gogledd America.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Sylw maes Duncan Brown a Marc Jones o lyfr maes DB: Bwletin Llên Natur rhifyn 45/46[1]