Neidio i'r cynnwys

Hawliau LHDT yn Wganda

Oddi ar Wicipedia
Hawliau LHDT yn Wganda
Enghraifft o:Hawliau LHDT yn ôl gwlad neu diriogaeth Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Baner y gymuned LHDT y Wganda

Ni chydnabyddir hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsryweddol (LHDT) yn Wganda.

Yn Rhagfyr 2013 pasiwyd deddf gan senedd Wganda i gosbi cyfunrywioldeb yn llym, gan gynnwys carchar am oes am "gyfunrywioldeb difrifolach", sydd yn cynnwys cyfathrach gyfunrywiol gan unigolyn sydd yn HIV-positif, cyfathrach gyfunrywiol gyda pherson o dan 18 oed neu gyda pherson anabl, ac achosion niferus o gyfunrywioldeb.[1] Dirymwyd y ddeddf yn sgil dyfarniad gan lys cyfansoddiadol Wganda yn Awst 2014, am iddi gael ei phasio heb gworwm yn y senedd.[2]

Ym Mawrth 2023 pasiwyd deddf gan senedd Wganda i anghyfreithloni uniaethu'n LHDT, cyfathrach rywiol rhwng dau berson o'r un ryw, hyrwyddo ac annog cyfunrywioldeb, a chynllwynio i gyfathrachu'n gyfunrywiol. Cosbir y troseddau hyn yn llym, gan gynnwys y gosb eithaf am gyfunrywioldeb difrifolach a charchar am oes am gyfathrach gyfunrywiol. Yn ôl y sefydliad anllywodraethol Human Rights Watch, hon yw'r gyfraith gyntaf yn y byd i wneud hunaniaeth LHDT yn drosedd ynddi ei hun.[3] Daeth y Ddeddf Wrth-Gyfunrywioldeb, gyda mân newidiadau, i rym wedi i'r Arlywydd Yoweri Museveni ei harwyddo ym Mai 2023.[4][5]

Tabl hawliau

[golygu | golygu cod]
Mae gweithgaredd rhywiol o'r un rhyw yn gyfreithlon Na Na (Cosb: Y gosb eithaf; Hyd at garchar am oes am "wybodaeth gnawdol yn erbyn trefn natur". )
Oed cydsynio cyfartal Na
Cyfreithiau gwrth-wahaniaethu mewn cyflogaeth yn unig Na
Deddfau gwrth-wahaniaethu wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau Na
Cyfreithiau gwrth-wahaniaethu ym mhob maes arall (gan gynnwys gwahaniaethu anuniongyrchol, lleferydd casineb) Na
Priodasau o'r un rhyw Na (Gwaharddiad cyfansoddiadol ers 2005)
Cydnabod cyplau o'r un rhyw Na
Mabwysiadu llysblentyn gan gyplau o'r un rhyw Na
Mabwysiadu ar y cyd gan barau o'r un rhyw Na
Pobl LGBT yn cael gwasanaethu'n agored yn y fyddin Na
Yr hawl i newid rhyw gyfreithiol Na
Mynediad i IVF ar gyfer lesbiaid Na
Sicrwydd benthyg croth i gyplau gwrywaidd hoyw Na
Dynion hoyw yn cael rhoi gwaed Na

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-05-31 yn y Peiriant Wayback", Al Jazeera (21 Rhagfyr 2013). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mawrth 2023.
  2. ↑ (Saesneg) David Smith, "Uganda anti-gay law declared 'null and void' by constitutional court", The Guardian (1 Awst 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Hydref 2019.
  3. ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-10-19 yn y Peiriant Wayback", Reuters (21 Mawrth 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mawrth 2023.
  4. ↑ (Saesneg) Samuel Okiror, "Ugandan president signs anti-LGBTQ+ law with death penalty for same-sex acts", The Guardian (29 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Mai 2023.
  5. ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-09-08 yn y Peiriant Wayback", BBC (29 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Mai 2023.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Deborah Kintu, The Ugandan Morality Crusade: The Brutal Campaign Against Homosexuality and Pornography Under Yoweri Museveni (Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland & Company, 2018).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]