Hassocks

Oddi ar Wicipedia
Hassocks
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Canol Sussex
Daearyddiaeth
SirGorllewin Sussex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd10.88 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.9233°N 0.1509°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04010002 Edit this on Wikidata
Cod OSTQ299154 Edit this on Wikidata
Cod postBN6 Edit this on Wikidata
Map

Pentref mawr a phlwyf sifil yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Hassocks.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Canol Sussex. Saif y pentref o dan y Twyni Deheuol, tua 7 milltir (11 km) i'r gogledd o Brighton.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil poblogaeth o 7,667.[2]

Cyn adeiladu'r rheilffordd o Lundain i Brighton yn yr 1840au, dim ond casgliad o dai bach a gwesty oedd y setliad, mewn ardal wedi'i rhannu rhwng plwyfi Clayton a Keymer, ond tyfodd y pentref yn gyflym ar ôl agor gorsaf o'r enw "Hassocks Gate" ar 21 Tachwedd 1841. Ymhen amser, cafodd Clayton a Keymer eu hymgorffori i mewn plwyf sifil Hassocks.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 19 Mehefin 2019
  2. City Population; adalwyd 19 Mehefin 2019
Eginyn erthygl sydd uchod am Orllewin Sussex. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato