Hafaledd

Oddi ar Wicipedia
Siart perthynas ddeuaidd, gyfwerth
Siart perthynas ddeuaidd, gyfwerth

Hafaledd, oddi mewn i fathemateg, yw'r berthynas rhwng dau faint. Yn gyffredinol, dyma'r berthynas rhwng dau fynegiad sy'n hawlio fod gan y meintiau hyn yr un gwerth, neu fod y mynegiannau'n cynrychioli yr un gwrthrych mathemategol.

Caiff yr hafaledd rhwng A a B ei nodi gan A = B, neu mewn iaith bob dydd, "Mae A yn hafal i B" e.e. "Mae dwy afal a dwy afal arall yr un peth (yn hafal) a phedair afal". Gelwir y nodiant mathemategol "=" yn "hafalnod".

Er enghraifft:

  • mae yn golygu fod x a y yn dynodi yr un gwrthrych.[1]
  • golyga y canlynol: os yw x yn dynodi unrhyw rif, yna mae gan y ddau fynegiad yr un gwerth.
  • mae os a dim ond os yw Mae'r honiad hwn yn golygu: os yw'r elfennau sy'n bodloni'r priodwedd (neu eiddo) yr un fath a'r elfennau sy'n bodloni yna mae'r ddau ddefnydd o'r nodiant yn diffinio'r un set. Mynegir y briodwedd hon, yn aml, fel hyn: "Mae dwy set sydd gyda'r un elfennau yn hafal". Dyma un o wirebau'r ddamcaniaeth setiau ac fe'i gelwir yn "wireb yr estynoldeb" (axiom of extensionality).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rosser 2008, t. 163.
  2. Lévy 2002, tt. 13, 358. Mac Lane & Birkhoff 1999, t. 2. Mendelson 1964, t. 5.