HIStory (albwm)

Oddi ar Wicipedia
HIStory:
Past, Present and Future, Book I
Albwm dethol ac Albwm Stiwdio gan Michael Jackson
Rhyddhawyd 20 Mehefin, 1975
Recordiwyd 1978-1995
Genre Rhythm a blŵs, Cerddoriaeth dawns, funk
Hyd 148:45
Label Epic
Cynhyrchydd Michael Jackson
James Harris
Janet Jackson
Terry Lewis
Dallas Austin
David Foster
Bill Bottrell
R. Kelly
Teddy Riley
Cronoleg Michael Jackson
Dangerous
(1991)
HIStory: Past, Present and Future, Book I
(1995)
Blood on the Dance Floor
(1997)

Albwm ddwbwl gan Michael Jackson yw HIStory: Past, Present and Future, Book I (weithiau'n cael ei fyrhau i HIStory), a gyhoeddwyd ar 20 Mehefin, 1995. Hon oedd nawfed albwm Jackson. Mae'r ddisg gyntaf, "HIStory Begins", yn cynnwys casgliad o ganeuon gorau Jackson o'r 15 blwyddyn cyn i'r albwm gael ei gyhoeddi. Cynnwysa'r ail ddisg, "HIStory Continues", ganeuon newydd, ac eithrio "Come Together", a gafodd ei gyhoeddi ym 1987.

HIStory yw'r albwm sydd wedi gwerthu orau yn y byd erioed. Gwerthwyd 20 miliwn (40 miliwn o ran unedau) ar draws y byd. Hon hefyd yw'r albwm sy'n ennill yr ail fwyaf o arian i ystad Jackson, ar ôl Thriller. Enillodd yr albwm Grammy ar gyfer y Fideo Cerddoriaeth Gorau   Ffurf byr o Scream. Ail-gyhoeddwyd y ddisg gyntaf yn 2001 fel disg sengl o dan yr enw Greatest Hits: HIStory, Vol. 1.