Thriller (albwm)
| Enghraifft o: | albwm |
|---|---|
| Rhan o | Michael Jackson's albums in chronological order |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 30 Tachwedd 1982 |
| Label recordio | Epic Records |
| Genre | cerddoriaeth boblogaidd, post-disco, cerddoriaeth roc, cyfoes R&B, ffwnc, y don newydd, synthpop |
| Lleoliad cyhoeddi | Unol Daleithiau America |
| Hyd | 2,539 eiliad |
| Cynhyrchydd/wyr | Michael Jackson, Quincy Jones |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02srz6 |

Thriller yw chweched albwm stiwdio y canwr Americanaidd, Michael Jackson. Rhyddhawyd yr albwm ar 30 Tachwedd 1982 gan Epic Records ac fel albwm ddilynol i albwm hynod lwyddiannus Jackson ym 1979, Off the Wall. Mae'r caneuon ar yr albwm Thriller yn gymharol debyg i Off the Wall, am eu bod yn cynnwys cerddoriaeth ffync, disco, soul, roc ysgafn, R&B a pop. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae geiriau caneuon Thriller yn ymdrin â themâu mwy tywyll, gan gynnwys paranoia, a'r goruwchnaturiol.
Costiodd yr albwm $750,000 i'w chynhyrchu a chafodd ei recordio yn Stiwdios Recordio Westlake yn Los Angeles, Califfornia rhwng mis Ebrill a Thachwedd 1982. Ysgrifennodd Jackson bedair o'r naw cân ar yr albwm. Gweithiodd Quincy Jones fel cynhyrchydd ar yr albwm hefyd.