Gêm fideo
Gêm fideo yw gêm electronig sy'n galluogi defnyddiwr i ryngweithio â dyfais fideo, megis sgrin deledu neu fonitor cyfrifiadur, i gynhyrchu adborth gweledol er mwyn difyrrwch[1].
Teclynnau
[golygu | golygu cod]Mae'r teclynnau a defnyddi'r i chware gemau fideo yn cael eu galw'n platfformau; enghreifftiau o'r rhain yw cyfrifiaduron personol neu gonsolau gêm fideo. Mae'r platfformau hyn yn amrywio o gyfrifiaduron prif ffrâm fawr i ddyfeisiau cyfrifiadurol bach ar gyfer cledr llaw.
Bu gemau fideo arcêd, lle'r oedd cydrannau'r gêm wedi'u lleoli mewn cist fawr, fel arfer yn cael eu gweithredu gan ddarn arian, yn boblogaidd yn y 1980au mewn arcedau fideo a thafarnau. Bellach mae eu poblogrwydd wedi gostwng wrth i gonsolau gêm fideo cartref dod yn hygyrch. Ymysg y consolau gêm fideo cartref poblogaidd mae PlayStation 4, Xbox One a Nintendo Switch a gemau i'w chware ar gyfrifiaduron a ffonau symudol.
Fel arfer, mae chwaraewyr yn gwylio'r gêm ar sgrin fideo neu fonitor teledu neu gyfrifiadur, neu weithiau ar goglau arddangos rhith-realiti. Yn aml mae bydd effeithiau sain i gyd fynd a'r gêm, gan gynnwys cerddoriaeth, llinellau gan actorion llais ac effeithiau sain yn dod o uchelseinyddion neu glustffonau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'n anodd dweud, efo sicrwydd, pa bryd y dyfeisiwyd y gêm fideo gyntaf. Bu nifer o'r datblygiadau gellir eu lled disgrifio fel gemau fideo wedi codi fel rhan o esblygiad y cyfrifiadur er mwyn arbrofi galluoedd cyfrifiaduron, yn hytrach nag am ddifyrrwch pur. Cynigiodd y mathemategydd a'r peiriannydd Claude Shannon, ym 1950, y gellid creu rhaglen cyfrifiaduron i chwarae gwyddbwyll, gan awgrymu'r posibilrwydd o greu cyfrifiadur a all feddwl. Ysgogodd awgrym Shannon ar lawer o ymchwil i greu rhaglenni gwyddbwyll a draffts gan wyddonwyr oedd a mwy o ddiddordeb ym maes deallusrwydd artiffisial nag ym maes adloniant.
Mae rhai yn hawlio mae OXO, gêm wedi ei selio ar y gêm papur lle mae chwaraewr yn rhoi X neu O mewn blwch naw sgwâr, yw'r gêm fideo gynharaf. Fe'i cynhyrchwyd gan A S Douglas o Brifysgol Caergrawnt ym 1952. Ond fe'i cynhyrchwyd fel rhan o thesis academaidd ar sut gall bod dynol rhyngweithio a chyfrifiadur, yn hytrach na fel difyrrwch pur o gael hwyl wrth chware'r gêm O X O.
Mae'n debyg mae Pong, gem tennis bwrdd, a gynhyrchwyd gan gwmni Atari ym 1972 oedd y gêm fideo "pur" llwyddiannus cyntaf i'w cynhyrchu. Space Invaders, gêm saethu targedau symudol, a chynhyrchwyd ym 1978, dechreuodd llwyddiant y diwydiant gemau arcêd.
Gwobr Datblygwyr Gemau Fideo'r Flwyddyn
[golygu | golygu cod]Gwobr Datblygwyr Gemau Fideo'r Flwyddyn (GDCA) yw prif wobr y diwydiant gemau cyfrifiadurol, a gyflwynir yn flynyddol yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau (Game Developers Conference (GDC)). Hwn yw'r cyfarfod mwyaf o'i fath drwy'r byd ar gyfer datblygwyr 'gemau fideo' proffesiynol, ac fei'i chynhelir ym Mawrth yn San Francisco fel arfer.
Sefydlwyd y Wobr yn 2001, ac fe'i rhoddir i'r gemau gorau a ymddangosodd y flwyddyn cyn y gynhadledd. Dim ond datblygwyr gemau sy'n cael pleidleisio ac ystyrir y wobr y pwysicaf a'r mwyaf anrhydeddus yn y byd gemau cyfrifiadurol.
Hyd at Ionawr 2018 dim ond 3 cwmni sydd wedi cipio'r wobr mwya nag unwaith:
- Valve Corporation am Half-Life 2 (2004) a Portal (2007)
- Bethesda Game Studios am Fallout 3 (2008) a The Elder Scrolls V: Skyrim (2011)
- Naughty Dog am Uncharted 2: Among Thieves (2009) a The Last of Us (2013)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lowood, Henry E (09/10/ 2017). "Electronic game". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 29/04/2018. Check date values in:
|access-date=, |date=
(help)