Neidio i'r cynnwys

Gàidhealtachd

Oddi ar Wicipedia
Dosraniad daearyddol siaradwyr Gaeleg yr Alban yn yr Alban yn 2001. Ni ddangosir Orkney a Shetland.

Gàidhealtachd, weithiau A' Ghàidhealtachd, yw'r term sy'n cyfeirio gan amlaf at Ucheldiroedd yr Alban a rhannau eraill o ogledd yr Alban a ystyrir yn gartref i'r iaith Aeleg. Ni ddylir ei gymsygu â'r gair Gaeltacht sy'n cyfeirio at ardaloedd Gwyddeleg yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'r term yn cael ei gymhwyso at ardal Aeleg Nova Scotia, Canada, yn ogystal.

Mae Gàidhealtachd, fel Y Fro Gymraeg yng Nghymru, yn dynodi ardal ddiwylliannol yn hytrach nac ardal ddaearyddol amlwg. Er bod nifer o ardaloedd yn Ucheldiroedd yr Alban wedi colli'r iaith neu wedi gweld lleihad sylweddol yn ei siaradwyr, mae rhannau mawr o'r gogledd-orllewin yn aros yn gadarnle i'r iaith. Mae'n bwysig cofio hefyd fod rhannau o'r Ucheldiroedd yn ardaloedd iaith Sgoteg: Caithness, Cromarty, Grantown-on-Spey, Campbeltown etc. Ar y llaw arall, mae rhai ardaloedd Gaeleg eu hiaith yn gorwedd y tu allan i ardal cynghorau Ucheldir, Argyll a Bute ac Ynysoedd Heledd, e.e. Ynys Arran a rhannau o Perth a Kinross.

Yn aml defnyddir y gair Galldachd (Gall-dom, gyda Gall yn golygu rhywun sydd ddim yn Gael) i gyfeirio at Iseldiroedd yr Alban; yn ogystal mae'r Hebrides yn cael eu hadnabod fel Innse Gall oherwydd y cysylltaid â'r Llychlynwyr.