Gwyndaf Evans

Oddi ar Wicipedia
Gwyndaf Evans
Ganwyd4 Mehefin 1959 Edit this on Wikidata
Dinas Mawddwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgyrrwr rali Edit this on Wikidata
PlantElfyn Evans Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.gwyndafevansmotors.co.uk/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Mae Gwyndaf Evans (ganwyd 4 Mehefin, 1959) yn yrrwr rali Gymreig ac yn ŵr busnes.

Cafodd ei eni a'i fagu yn Ninas Mawddwy Sir Feirionnydd lle roedd ei deulu'n rhedeg cwmni moduro a bysiau "R. E. Evans a'i Feibion". Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Gader Dolgellau.

Daeth yn ail ym Mhencampwriaeth Rali Prydain ym 1995 cyn dod i frig y bencampwriaeth y flwyddyn ganlynol; daeth yn ail hefyd ym 1998, 1999 a 2010.

Elfyn, mab Gwyndaf wrth y llyw yn 2007.

Ar y llwyfan rhyngwladol daeth i'r brig yn nosbarth ceir grŵp N ym 1990 a 1993 gan yrru Ford Sierra Cosworth RS 4x4. Cyrhaeddodd seithfed safle pencampwriaethau'r byd ym 1994 a'r chweched safle ym 1995 yn gyrru Ford Escort RS2000.[1]

Ym 1983 sefydlodd fusnes gwerthu moduron yn Nolgellau o'r enw Moduron Gwyndaf Evans[2] sydd bellach yn cynnwys hen gwmni ei daid R E Evans a'i feibion a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1930. Mae'r cwmni bellach yn cefnogi mab Gwyndaf, Elfyn Evans[3], sydd wedi dilyn yn ôl traed ei dad fel cystadleuydd ralïo ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan rallye-info.com Archifwyd 2013-06-23 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 18 Ion 2014
  2. Gwefan y cwmni; adalwyd 18 Ion 2014
  3. http://www.gwyndafevansmotors.co.uk/rally_elfyn.cfm Archifwyd 2014-02-20 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 18 Ion 2014