Gwyach yddfddu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwyach Yddfddu)
Gwyach yddfddu
Gwyach Yddfddu mewn plu haf
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Podicipediformes
Teulu: Podicipedidae
Genws: Podiceps
Rhywogaeth: P. nigricollis
Enw deuenwol
Podiceps nigricollis
Brehm, 1831

Mae'r Wyach yddfddu, Podiceps nigricollis, yn aelod o deulu'r Podicipedidae, y gwyachod.

Mae tipyn yn llai na'r Wyach fawr gopog, tua 28–34 cm (12–14 modfedd) o hyd. Yn yr haf, mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda gwddf du a chudynnau o blu hir euraid ar ochr y pen. Yn y gaeaf, collir y rhain, ac mae'r aderyn yn ddu a gwyn.

Mae'n nythu ar lynnoedd dŵr croyw ar draws Ewrob, Asia, Affrica, yr Unol Daleithiau a rhan ogleddol Dde America. Ceir nifer o is-rywogaethau:

  • P. n. nigricollis, o orllewin Ewrop hyd orllewin Asia
  • P. n. gurneyi, de Affrica
  • P. n. californicus, o de-orllewin Canada trwy orllewin yr Unol Daleithiau.

Nid yw'r Wyach yddfddu yn nythu yng Nghymru fel rheol, er bod cofnodion o barau yn nythu ar Ynys Môn yn y gorffennol. Ceir ambell un o gwmpas yr arfordir ac ar lynnoedd yn ystod y gaeaf, er enghraifft o gwmpas Traeth Lafan

Gwyach yddfddu mewn plu gaeaf
Wyau Podiceps nigricollis