Gwrthryfel y Moro

Oddi ar Wicipedia
Gwrthryfel y Moro
Enghraifft o'r canlynolgwrthdaro Edit this on Wikidata
Rhan oCivil conflict in the Philippines Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1969 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganMoro Rebellion Edit this on Wikidata
Lleoliady Philipinau Edit this on Wikidata

Gwrthdaro arfog ym Mindanao, ynys ail fwyaf y Philipinau, ac Ynysfor Sulu yw Gwrthryfel y Moro a gychwynnodd ym 1968 gan herwfilwyr o'r Moro, grŵp ethnig Mwslimaidd, yn erbyn y llywodraeth. Y ddwy brif garfan o wrthryfelwyr oedd Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol y Moro (MNLF) a Ffrynt Rhyddid Islamaidd y Moro (MILF). Yn ogystal, dechreuodd plaid gomiwnyddol o'r enw Sefydliad Gwrthsafiad a Rhyddid y Moro (MRLO) ymladd yn erbyn y llywodraeth yn 2005. Daeth jihadyddion Abu Sayyaf yn rhan o'r gwrthryfel ym 1991, ac ers hynny mae sawl grŵp Islamaidd arall wedi ymuno â'r ffrae, gan gynnwys yr Ymladdwyr Islamaidd Bangsamoro dros Ryddid (BIFF) a holltodd oddi ar y MILF yn 2010. Arwyddwyd cytundebau heddwch rhwng y llywodraeth a'r MNLF ym 1996 a'r MILF yn 2014, a daeth y gwaethaf o'r ymladd i ben. Bellach, gwrthdaro ar raddfa isel ydy'r gwrthryfel.

Bu'r Moro, neu Bangsamoro, yn brwydro'n erbyn Ymerodraeth Sbaen ers goresgyniad y Sbaenwyr yng nghanol yr 16g hyd at Chwyldro'r Philipinau a buddugoliaeth Unol Daleithiau America yn Rhyfel Sbaen ac America ym 1898. Wedi hynny, cychwynnodd wrthryfel arall gan y Moro yn erbyn y lluoedd Americanaidd, a barodd hyd at 1913. Wedi i'r Philipinau ennill ei hannibyniaeth lwyr ym 1946, daliodd y Moro i fynnu ymreolaeth, a gwaethygodd yr anghytuno gwleidyddol yn ystod arlywyddiaeth Ferdinand Marcos. Sbardunwyd y gwrthryfel gan gyflafan Jabidah ar 28 Mawrth 1968, pan gafodd nifer o gyrchfilwyr Mwslimaidd ym Myddin y Philipinau eu lladd yn Sabah, Maleisia, mewn amgylchiadau ansicr. Ymgododd sawl grŵp i frwydro dros ymreolaeth i'r Moro, gan gynnwys yr MNLF a sefydlwyd gan Nur Misuari ym 1972 gyda'r nod o ennill annibyniaeth oddi ar y Philipinau.

Ceisiodd Sefydliad y Gynhadledd Islamaidd gyflafareddu terfyn i'r gwrthdaro, ac ym 1976 arwyddwyd cadoediad yn Tripoli, Libia, rhwng llywodraeth y Philipinau a'r MNLF. Fodd bynnag, ni ddaeth heddwch, ac ymddangosodd rhagor o grwpiau milwriaethus, gan gynnwys y MILF a holltodd oddi ar yr MNLF ym 1977. Wedi cwymp unbennaeth Marcos ym 1986, cyfarfu'r Arlywydd Corazon Aquino â Nur Misuari mewn trafodaethau heddwch, ac ym 1989 cyhoeddodd y llywodraeth sefydlu'r Rhanbarth Hunanlywodraethol ym Mindanao Fwslimaidd (ARMM). Arwyddwyd cytundeb heddwch rhwng y llywodraeth a'r MNLF ym 1996, ac etholwyd Misuari yn llywodraethwr yr ARMM. Er i'r MNLF wrthod ymwahaniaeth yn swyddogol, arweiniodd Misuari wrthryfel aflwyddiannus yn 2001, a chafodd ei garcharu. Gwaethygodd y trais yn y blynyddoedd i ddod, ac yn 2005 a 2007 dygwyd gyrchoedd ar y fyddin yn Jolo, yr ynys fwyaf yn Ynysfor Sulu, gan gefnogwyr Misuari.[1]

Cychwynnodd trafodaethau heddwch rhwng y llywodraeth a'r MILF ym 1997. Cytunwyd ar ffiniau i diriogaeth Fwslimaidd yn 2008, ond gwrthodwyd y cynllun hwnnw gan y Goruchaf Lys, ac ailgynnwyd yr ymladd.[1] O'r diwedd, yn 2014, cytunodd y MILF i roi'r gorau i wrthdaro arfog.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Guide to the Philippines conflict", BBC (8 Hydref 2012). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Ebrill 2013.