Gwlff Ob
Gwedd
Math | bae |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Ob |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr Kara |
Sir | Ocrwg Ymreolaethol Yamalo-Nenets |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 68.8333°N 73.5°E |
Gwlff neu fae yng ngogledd Rwsia yw Gwlff Ob, hefyd Bae Ob (Rwseg: Обская губа», Obskaya Guba). Saif yn Ocrwg Ymreolaethol Yamalo-Nenets.
Saif y gwlff rhwng penrhyn Yamal yn y gorllewin a penrhyn Guida yn y dwyrain. Llifa afon Ob ac afon Taz i mewn iddo. Mae'n cysylltu â Môr Kara. Mae'r gwlff tua 1,000 km o hyd a 50 km hyd 80 km o led, gyda dyfnder o tua 10-12 medr ar gyfartaledd.
Mae'r ardal o bwysigrwydd economaidd oherwydd presenoldeb nwy ac olew.