Ocrwg Ymreolaethol Yamalo-Nenets

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Ocrwg Ymreolaethol Yamalo-Nenets.
Lleoliad Ocrwg Ymreolaethol Nenets yn Rwsia.

Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Ocrwg Ymreolaethol Yamalo-Nenets (Rwseg: Яма́ло-Не́нецкий автоно́мный о́круг, Yamalo-Nenetsky Avtonomny Okrug; Nenetseg: Ямалы-Ненёцие автономной ӈокрук). Ei ganolfan weinyddol yw Salekhard. Poblogaeth: 522,904 (Cyfrifiad 2010).

Mae Ocrwg Ymreolaethol Yamalo-Nenets yn rhan o ranbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal Ural yng ngogledd-orllewin Siberia. Mae'n diriogaeth ymreolaethol o fewn Oblast Tyumen gyda chanran sylweddol o bobl brodorol yn byw yno, sef y Nenetsiaid ac eraill. Mae'n gorwedd ar lan Môr Kara, yn yr Arctig.

Sefydlwyd yr ocrwg ar 10 Rhagfyr 1930.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.