Gwipavaz
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 15,050 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Fabrice Jacob ![]() |
Gefeilldref/i | Barsbüttel ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 44.13 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Plabenneg, Brest, Ar Forest-Landerne, Gouenoù, Kersent-Plabenneg, Ar Releg-Kerhuon, Sant-Divi ![]() |
Cyfesurynnau | 48.4336°N 4.4008°W ![]() |
Cod post | 29490 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Guipavas ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Fabrice Jacob ![]() |
![]() | |
Mae Gwipavaz (Ffrangeg: Guipavas) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Plabennec, Brest, La Forest-Landerneau, Gouesnou, Kersaint-Plabennec, Le Relecq-Kerhuon, Saint-Divy ac mae ganddi boblogaeth o tua 15,050 (1 Ionawr 2019).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Daw'r enw o'r Llydaweg gwic (tref) a bevoez (coedwig mawr).
Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Cysylltiadau Rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Gwipavaz wedi'i gefeillio â:
Kelliwik, Cernyw ers 1982
Barsbuttel, Almaen, ers 1986
Puszradaróc, Rwmania
Adeiladau crefyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae nifer o adeiladau crefyddol nodweddiadol yng nghymuned Gwipavaz
Eglwys Sant Pedr a Sant Paul[golygu | golygu cod y dudalen]
Adeiladwyd rhwng 1952 a 1955 gan y pensaer Michel Brest; mae’n nodweddiadol gan fod ei chlochdy yn annibynnol i gorff yr eglwys ac yn weladwy o bellteroedd. Mae porth yr eglwys, sydd wedi ei gadw o'r eglwys flaenorol, yn cynnwys cerfluniau o'r deuddeg apostol ac yn heneb gofrestredig[1]
Capel Ein Morwyn ar y Bryn[golygu | golygu cod y dudalen]
Saif Capel Ein Morwyn ar y Bryn (Notre-Dame-du-Reun) 93 metr uwchben lefel y môr. Mae'r capel presennol yn dyddio o'r 19g ac wedi ei hadeiladu i gymryd lle eglwys gynharach a adeiladwyd gan Sant Thudon ei hun yn y 7c. Cafodd y capel ei hadfer ym 1805, a'i ddifrodi'n wael yn ystod yr ymladd i ryddha Brest ym mis Awst 1944; ail- adferwyd y capel ym 1952.[2]
Capel Saint-Yves[golygu | golygu cod y dudalen]
Adeiladwyd ym 1892 o gerrig hen gapel maenor Keroudaut[3].
Notre-Dame-de-Tourbian[golygu | golygu cod y dudalen]
Dyma eglwys fodern y plwyf, wedi ei gysegru 26 Medi, 1993
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-18. Cyrchwyd 2016-11-10.
- ↑ http://fr.topic-topos.com/notre-dame-du-reun-guipavas
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-21. Cyrchwyd 2016-11-10.