Gwion Tegid

Oddi ar Wicipedia

Actor a chynhyrchydd yw Gwion Tegid (g. tua 1991), sy'n adnabyddus yn bennaf am chwarae rhan Barry Hardy yn yr opera sebon Rownd a Rownd.

Ymddangosodd ar y teledu gyntaf yn 1997 pan oedd yn chwe blwydd oed, a hynny yn nghyfres Amdani! gan Ffilmiau'r Nant; roedd yn chwarae rhan Eilir, sef mab i gymeriadau Ffion Dafis a Robin Eiddior.

Ym mis Mai 2005, ag yntau'n ddeuddeg oed, dechreuodd weithio ar Rownd a Rownd fel cymeriad Barry Hardy, "hogyn drwg" y gyfres. Mae hefyd wedi gwneud gwaith cyfarwyddo, sgriptio a storïo gyda Ffilmiau'r Nant a'i olynydd, cwmni Rondo.

Mae hefyd yn un o gyfarwyddwyr cwmni Docshed, sy'n arbenigo mewn rhaglenni ffeithiol. Yn 2022, enillodd y cwmni wobr BAFTA Cymru am ei raglen ddrama ddogfen, Y Parchedig Emyr Ddrwg.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Gwion yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Tryfan. Mae'n gymar i'r ffotograffydd Kristina Banholzer ac mae ganddynt fab a merch, sef Greta a Nico.[1][2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ateb y Galw: Yr actor Gwion Tegid

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]