William Rowlands

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwilym Lleyn)
Jump to navigation Jump to search
William Rowlands
Portrait of Y Parch. Wm. Rowlands, 'Gwilym Lleyn' (4671153).jpg
Ffugenw Gwilym Lleyn Edit this on Wikidata
Ganwyd 24 Awst 1802 Edit this on Wikidata
Bryncroes Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Mawrth 1865 Edit this on Wikidata (62 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth golygydd, llyfrbryf Edit this on Wikidata

Llyfryddwr a gweinidog oedd William Rowlands (18021865), sy'n fwy adnabyddus dan ei lysenw Gwilym Lleyn. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gyfrol Llyfryddiaeth y Cymry (1869).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed William Rowlands ym Mryncroes yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd). Aeth yn weinidog gyda'r Wesleiaid a bu'n gwasanethu mewn amryw lefydd o 1831 hyd 1864 pan ymddeolodd.

Treuliodd ddau gyfnod fel golygydd Yr Eurgrawn Wesleaidd (1842-45, 1852-56).

Roedd Rowlands yn gasglwr llyfrau brwd a threuliodd flynyddoedd yn catalogio hen lyfrau Cymraeg (a rhai Saesneg hynafiaethol yn ymwneud â Chymru). Ffrwyth ei lafur oedd y gyfrol swmpus Llyfryddiaeth y Cymry, a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, wedi'i golygu gan D. Silvan Evans, yn 1869. Er ei fod yn frith â chamgymeriadau a bylchau mae'n aros yn ffynhonnell werthfawr ar hanes cyhoeddi llyfrau Cymraeg rhwng 1546 a 1800.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]