Gwesty’r Celt
| Math | gwesty |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Caernarfon |
| Sir | Caernarfon |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 13.7 metr |
| Cyfesurynnau | 53.142664°N 4.272572°W |
| Cod post | LL55 1AY |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
| Manylion | |
Gwesty tair seren yw Gwesty'r Celt neu’r Celtic Royal Hotel yng Nghaernarfon, Gwynedd. Cafodd ei adeiladu ym 1794 ac mae'n parhau ar y safle ers hynny. Yn ôl yn y 18g ymwelodd y Frenhines Victoria â'r gwesty sawl tro. Mae gan y gwesty ystafelloedd cysgu, ystafelloedd bwyd a diod, canolfan ffitrwydd a phwll nofio. Cynhelir priodasau a chynadleddau yno hefyd. Mae’r gwesty wedi derbyn llawer o wobrau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Enw gwreiddiol y gwesty oedd The Uxbridge Arms Hotel. Cafodd ei adeiladu o gwmpas 1794 gan ail iarll Uxbridge sy’n enwog am ymladd ym Mrwydr Waterloo. Enillodd ei le mewn hanes am ei ran yn y frwydr honno.
Ar y pryd roedd y gwesty yma yn un o’r goreuon yn y dalgylch. Cynhaliwyd llawer o ddawnsfeydd nosweithiol ac adloniant i'r Gymdeithas Adelphi. Yn 1832 pan ymwelodd Frenhines Victoria newidiodd enw’r gwesty yn ei anrhydedd i'r Royal Hotel.
