Gweriniaeth Altai
Gwedd
| Math | gweriniaethau Rwsia, federal subject of Russia |
|---|---|
| Prifddinas | Gorno-Altaysk |
| Poblogaeth | 210,095 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | National Anthem of the Altai Republic |
| Pennaeth llywodraeth | Andrei Turchak |
| Cylchfa amser | Amser Omsk, Amser Krasnoyarsk, UTC+07:00, Asia/Barnaul |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Southern Altai |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Siberia |
| Lleoliad | Altai, Western Siberia |
| Sir | Rwsia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 92,903 km² |
| Yn ffinio gyda | Crai Altai, Oblast Kemerovo, Khakassia, Twfa, Ardal Dwyrain Kazakhstan, Talaith Bayan-Ölgii, Xinjiang |
| Cyfesurynnau | 50.85°N 86.9°E |
| RU-AL | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | State Assembly of the Altai Republic |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Head of the Altai Republic |
| Pennaeth y Llywodraeth | Andrei Turchak |
![]() | |
- Erthygl am y weriniaeth yw hon. Gweler hefyd Altai (gwahaniaethu).


Mae Gweriniaeth Altai (Rwseg: Респу́блика Алта́й, Respublika Altay; Altäeg: Алтай Республика, Altay Respublika) yn weriniaeth ffederal yn Rwsia. Ei phrifddinas yw Gorno-Altaysk. Arwynebedd: 92,600 cilometr sgwâr (35,800 milltir sgwâr). Poblogaeth: 206,168 (Cyfrifiad 2010).
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Lleolir y weriniaeth yng nghanol Asia lle mae taiga Siberia, steppes Casachstan ac anialdiroedd Mongolia yn cyffwrdd. Mae coedwigoedd yn gorchuddio tua 25% o diriogaeth y weriniaeth. Gorwedd y weriniaeth yn rhan Rwsiaidd Mynyddoedd Altai; y mynydd uchaf yno yw Gora Belukha (Mynydd Belukha: 4,506 m). Ceir nifer o afonydd a llynnoedd.
O fewn Ffederaliaeth Rwsia mae'r weriniaeth yn ffinio ag -
- Oblast Kemerovo (gogledd), Gweriniaeth Khakassia (gogledd-ddwyrain), Gweriniaeth Tuva (dwyrain), ac Altai Krai (gorllewin).
Yn rhyngwladol -
- Mongolia (Talaith Bayan-Ölgii) (de-ddwyrain), Gweriniaeth Pobl Tsieina (Rhaglawiaeth Altay) (de), a Casachstan (Dwyrain Casachstan) (de-orllewin).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gweriniaeth Altai Archifwyd 2016-03-13 yn y Peiriant Wayback
