Neidio i'r cynnwys

Gwen ferch Ellis

Oddi ar Wicipedia
Gwen ferch Ellis
Ganwyd1550s Edit this on Wikidata
Llandyrnog Edit this on Wikidata
Bu farw1594 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata

Barddes[1] o Gymraes oedd Gwen ferch Elis neu Gwen ferch Ellis; (m. Hydref 1594). Fe'i ganwyd oddeutu 1542–1552 yn Llandyrnog, Clwyd. Ei hachos oedd yr achos cyntaf sydd wedi ei gofnodi o ddienyddiad oherwydd dewiniaeth neu wrachyddiaeth yng Nghymru. Cafodd ei chyhuddo am ddewiniaeth yn 1594 a chafwyd hi'n euog a'i chrogi yn Hydref 1594.[2][3][4]

Er bod miloedd o fenywod – a rhai dynion – wedi cael eu dienyddio am ddewiniaeth neu wrachyddiaeth ledled yr Alban, Lloegr a thir mawr Ewrop rhwng y 15-18g, dim ond pum dienyddiad a ddigwyddodd yng Nghymru a dim ond 35 achos llys o ddewiniaeth drwy Gymru benbaladr.

Nyddu oedd ei phrif waith, ond roedd hefyd yn iachau pobl ac yn paratoi meddyginiaethau ar gyfer pobl ac anifeiliaid, ond daeth ei gyrfa i ben pan ddarganfuwyd "swyn" o'i heiddo ar dir Gloddaith, cartref Syr Thomas Mostyn.[1][5] Roedd Mostyn wedi ffraeo gyda menyw fonheddig o'r enw Jane Conwy, a oedd yn cyfrif Gwen yn ffrind iddi. Cysylltodd clecs y ddwy yn gyflym, gan awgrymu bod Gwen wedi cael ei chyflogi i osod y swyn ar deulu Mostyn.

Priodasau

[golygu | golygu cod]

Priododd Gwen deirgwaith. Bu farw ei gŵr cyntaf, Lewis ap David ap Gwyn, ar ôl dwy flynedd o briodas. Yn 1588, fe briododd felinwr o'r enw Lewis ap David ap Gruffith Gethin (Lewis Gethin). Symudodd y ddau i'w felin yn Llanelian-yn-Rhos. Ar ôl 18 mis o briodas, bu farw ei hail ŵr hefyd. Yn 1592, priododd Gwen John ap Morris o Fetws yn Rhos ac ymgartrefu yno. Mae tynged ei gŵr olaf yn ddiarwybod, er ni chrybwyllwyd ef yn ystod ei hachos.

Yr achos a'i dienyddiad

[golygu | golygu cod]

Ar ôl ei harchwiliad gan yr esgob, cafodd yr ynadon lleol y pŵer i holi llygad-dystion oedd yn barod i dystio yn erbyn Gwen. Tystiodd pum dyn a dwy ddynes â chyhuddiadau o ddewinyddiaeth yn ei herbyn. Fe'i chyhuddwyd o achosi gwallgofrwydd plentyn, ac o ladd dyn gwael a fu farw wedi iddo gael ei drin gan Gwen. Cyhuddwyd hi hefyd o gael natur ddialgar. Cynhaliwyd yr achos yn 1594 ac fe gafwyd Gwen yn euog. Cafodd ei dienyddio drwy grogi yn sgwâr tref Dinbych, lle saif llyfrgell Dinbych heddiw, yn Hydref 1594.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Edwards, Alaw Mai (Gwanwyn 2020). "Barddesau'r Unfed Ganrif ar Bymtheg". Barddas: 25. https://mcusercontent.com/eb3b0c39a2b5ecd3316171625/files/ada6f6c6-780a-48cf-a3e0-c59ded66a276/Barddas_Gwanwyn_2020.pdf.
  2. nation.cymru; awdur: Mari Ellis Dunning. Adalwyd 14 Hydref 2025.
  3. "Gwen ferch Ellis". Church in Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-30. Cyrchwyd 28 Ionawr 2015.
  4. "GWEN ferch ELLIS (c. 1552 - 1594), y Gymraes gyntaf i'w dienyddio am ddewiniaeth | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-07-24.
  5. Lois, Efa (2019-10-31). "Gwen Ferch Ellis". Cyrchwyd 2020-04-25.[dolen farw]
  6. Roberts, ed. by Michael; Clarke, Simone (2000). Women and gender in early modern Wales. Cardiff: University of Wales press. t. 75. ISBN 0708315801.CS1 maint: extra text: authors list (link)