Gwarchodfa Natur Genedlaethol Maes-y-Facrell
| Math | Gwarchodfa Natur Genedlaethol |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.3287°N 3.8474°W |
![]() | |

Lleolir Gwarchodfa Natur Genedlaethol Maes-y-Facrell ar y Gogarth yn Llandudno, Sir Conwy. Cafodd y safle ei dynodi yn Warchodfa Natur Genedlaethol yn 2009. Pum hectar yw maint y safle.[1]
Rhywogaethau
[golygu | golygu cod]Mae nifer o blanhigion prin i'w cael ar laswelltiroedd calchog Maes-y-Facrell gan gynnwys rhywogaethau fel y rhwyddlwyn pigfain, meryw, cor-rosod lledlwyd (ynghyd â'r cor-rosyn cyffredin). Ceir gloÿnnod byw hefyd, gan gynnwys y glesyn serennog.[2]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Nid oes cytundeb am darddiad yr enw 'Maes-y-Facrell'. Mae'n bosibl mai lle i bysgotwyr lleol sychu mecryll oedd y glaswelltir neu fod siâp y cerrig calchfaen yn awgrymu siâp mecryll. Posiblrwydd arall yw mai llygriad o'r enw lle 'Maes y Fachraeth' ydyw; mae'r gair 'mach/fach' yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd gyda'r ystyr "lle anghysbell."[2]
