Guadalupe, Cáceres
Jump to navigation
Jump to search
Tref (municipio) yn nhalaith Cáceres yng nghymuned ymreolaethol Extremadura yn Sbaen yw Guadalupe. Mae'r boblogaeth yn 2,396. Yn ôl traddodiad, cafodd gwladwr o'r enw Gil Cordero o Alía hyd i ddelw o'r Forwyn Fair tua diwedd y 13g neu ddechrau'r 14g. Tyfodd sefydliad eglwysig yma, ac yna bentref o'i gwmpas. Mae'r fynachlog Real Monasterio de Nuestra Señora de Guadalupe a adeiladwyd yn y 14eg a'r 15g yn gasgliad o adeiladau nodedig iawn, gyda dylanwad mudéjar cryf ar y bensaerniaeth. Yn 1993 enwyd y fynachlog yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.