Gruffudd ab Owain Glyndŵr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gruffudd ab Owain)
Gruffudd ab Owain Glyndŵr
Ganwydc. 1375 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1412 Edit this on Wikidata
o pla biwbonig Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadOwain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata
MamMargaret Hanmer Edit this on Wikidata

Mab hynaf Owain Glyn Dŵr a'i wraig Margaret Hanmer oedd Gruffudd ab Owain Glyn Dŵr (c. 1385 - 1411).

Cymerodd Gruffudd ran yng ngwrthryfel ei dad, ac ef oedd arweinydd y fyddin Gymreig a orchfygwyd gan fyddin Seisnig dan yr Arglwydd Grey o Codnor ym Mrwydr Pwll Melyn ger Brynbuga, Sir Fynwy ar 5 Mai 1405. Cymerwyd Gruffudd yn garcharor, a chadwyd ef yn Nhŵr Llundain ar y cychwyn, yna mewn nifer o gaerau eraill. Bu farw o'r pla du yn 1411.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • J. E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, Clarendon Press, 1931)