Gray's Anatomy
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
|---|---|
| Awdur | Henry Gray |
| Cyhoeddwr | John William Parker |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | Awst 1858 |
| Tudalennau | 794 |
| Olynwyd gan | Gray's Anatomy for Students |
| Prif bwnc | Anatomeg ddynol |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/016hhv |

Llyfr Saesneg sy'n ymwneud ag anatomeg yw Gray's Anatomy: Descriptive and Surgical in the United Kingdom, neu Gray's Anatomy fel adnabyddir yn gyffredin, a gyhoeddwyd yn gyntaf ym 1858. Mae'n llyfr clasurol a phwysig a wnaeth argraff fawr ar y byd meddygol. Blwyddyn ar ôl ei gyhoeddi yng Ngwledydd Prydain, cafodd Gray's Anatomy ei gyhoeddi yn yr Unol Daleithiau. Wrth astudio afiechydon heintus, daliodd y frech wen oddi wrth ei nai a oedd ar ei wely angau a bu farw ychydig wedi cyhoeddi'r ailargraffiad ym 1860 yn 34 oed. Daliwyd ati gyda'r gwaith, fodd bynnag, gyda llawer o'i gydweithwyr yn torchi llewys. Yn 2015 fe gyhoeddwyd y 41fed rhifyn o dan olygyddiaeth Susan Standring.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gray, Henry; Carter, Henry Vandyke (1858), Anatomy Descriptive and Surgical, London: John W. Parker and Son, https://archive.org/stream/anatomydescript09graygoog#page/n7/mode/2up, adalwyd 16 Hydref 2011