Grace Darling

Oddi ar Wicipedia
Grace Darling
Ganwyd24 Tachwedd 1815 Edit this on Wikidata
Bamburgh Castle Edit this on Wikidata
Bu farw20 Hydref 1842 Edit this on Wikidata
Bamburgh Castle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethceidwad goleudy Edit this on Wikidata
Ysgythriad o Grace Darling, gyda'i llofnod.

Merch i geidwad goleudy yn Lloegr oedd Grace Horsley Darling (24 Tachwedd 181520 Hydref 1842). Daeth yn enwog am achub bywydau morwyr o longddrylliad y Forfarshire yn 1838. Tarodd y stemar olwyn y creigiau ger Ynysoedd Farne oddi ar arfordir Northumberland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr; achubwyd bywydau naw o'r morwyr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Y goleudy yn Longstone. Y ffenestr uchaf yn y cylch gwyn oedd ystafell wely Grace Darling, sef y man lle gwyliodd y Forfarshire yn suddo.

Ganwyd Grace Darling ar 24 Tachwedd 1815 ym mwthyn ei thadcu yn Bamburgh, Northumberland. Hi oedd y seithfed o naw o blant (pedwar brawd a phedair chwaer), a phan oedd ychydig wythnosau oed, symudodd i fyw ar Ynys Brownsman, un o Ynysone Farne, mewn bwythyn bychan a oedd yn rhan o oleudy.

Ei thad oedd yn gofalu am y goleudy (a adeiladwyd yn 1795 ar gyfer Trinity House a derbyniai dal o £70 y flwyddyn a £10 y flwyddyn am wasanaeth da. Roedd y llety yn elfennol a doedd y goleudy ei hun ddim yn y safle gorau er mwyn arwain llongau i fan diogel. O ganlyniad, symudodd y teulu i oleudy newydd sbon yn 1826 ar Ynys Longstone.

Roedd y llety yng Ngoleudy Longstone yn well ond roedd yr ynys ei hun yn fwy garw, ac felly byddai ei thad yn rhwyfo yn ôl i Longstone er mwyn casglu llysiau ffres o'u hen ardd a bwyd ar gyfer eu hanifeiliaid. Treuliodd y teulu y mwyafrif o'r hamser ar lawr waelod y goleudy a oedd yn cynnwys ystafell fawr, a oedd yn cael ei gynhesu gan dan coed. Hwn oedd eu ystafell fyw, ystafell fwyta a'u cegin ac roedd ynddo risiau troellog a arweiniai i'r tair ystafell wely uwch ben ac wrth gwrs, y golau ar frig y twr.[1]

Yn oriau man y bore ar 7 Medi 1838, tra'n edrych allan drwy'r ffenest i fyny'r grisiau, gwelodd Darling llongddrylliad a morwyr y Forfarshire ar graig o'r enw Big Harcar. Roedd y Forfarshire wedi hwylio'n rhy agos at y creigiau ac wedi torri'n ddau, gydag un hanner o'r cwch wedi suddo yn ystod y nos.

Bedd Grace Darling a'i theulu ym mynwent St Aidan, Bamburgh. Dyma gopi o'r garreg fedd a wnaed yn lle'r gwreiddiol a oedd wedi dirywio dros amser. Mae'r gwreiddiol bellach yn amgueddfa'r RNLI gerllaw.

Penderfynodd Grace a'i thad fod y tywydd yn rhy arw i lansio'r bad achub felly aethant allan mewn cwch rhwyfo i geisio achub y morwyr. Aethant ar hyd y llwybr hiraf, gan rwyfo bron milltir. Cadwodd Grace y cwch rhwyfo yn sefydlog yn y mor tra bod ei thad wedi helpu'r pedwar dyn a'r unig fenyw ar y llong, Mrs. Dawson, i mewn i'w cwch. Er ei bod hi wedi goroesi'r llongddrylliad, collodd Mrs Dawson ei dau blentyn ifanc yn ystod y nos. Yna, rhwyfodd William a thri o'r dynion a achubwyd yn ôl i'r goleudy yn y cwch. Arhosodd Grace yn y goleudy tra bod William a thri o'r dynion a achubwyd yn rhwyfo yn ôl i'r llongddrylliad unwaith eto gan achub mwy o'r morwyr.

Yn y cyfamser, lansiwyd y bad achub o Seahouses ond cyrhaeddodd Big Harcar ar ôl i Grace a'i thad orffen achub y morwyr: yr unig beth ffeindiodd y bad achub oedd cyrff meibion Mrs. Dawson a chorff ficer a oedd ar y llong. Roedd h'n rhy beryglus i hwylio nol i Ogledd Sunderland ac felly rhwyfon nhw i'r goleudy er mwyn cael rhyw faint o gysgod. Roedd brawd Grace, William Brooks Darling, yn un o'r saith pysgotwr a oedd ar y bad achub. Dirywiodd y tywydd i'r fath raddau roedd pawb wedi gorfod aros yn y goleudy am dridiau nes i'r tywydd wella cyn iddynt ddychwelyd i'r tir mawr.

Roedd 62 o bobl wedi bod ar fwrdd y Forfarshire. Pan drawodd y creigiau, torrodd y cwch yn ddau. Roedd y bobl a achubwyd gan Grace a'i thad wedi bod yn cysgodi ym mlaen y llong ac wedi bod ar y creigiau am gryn dipyn o amser cyn iddo suddo.

Wrth i'r newydd am ei rol yn achub y morwyr ledu, dechreuwyd ystyried Grace yn dipyn o arwres am ei dewrder. Derbyniodd Grace a'i thad y Fedal Arian am eu dewrder gan y RNLI.[2] Cyfrannodd y cyhoedd dros £700 ar ei chyfer, gan gynnwys £50 wrth y Frenhines Fictoria; aeth dros ddwsin o arlunwyr i'r ynys er mwyn peintio darluniau ohoni, a danfonwyd cannoedd o anrhegion a llythyron iddi.

Yn 1842, aeth Grace yn sal tra'n ymweld a'r tir mawr a threuliodd amser gyda'i chefndryd, y MacFarlanes, yn eu cartref yn Narrowgate, Alnwick. Clywodd Iarlles Northumberland am ei chyflwr threfnodd ei bod yn symud i lety mwy addas ger Castell Alnwick, a gofalodd am yr arwres ei hun yn ogystal gyda chymorth ei meddyg teuluol.

Fodd bynnag, gwaethygodd cyflwr Grace ac wrth iddi ddirywio ymhellach, cafodd ei symud i fan ei geni yn Bamburgh. Bu farw o'r diciâu yn Hydref 1842, yn 26 oed.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Delwedd o Grace Darling – Heroine of the Farne Islands gan Eva Hope
  • Cerdd Algernon Charles Swinburne "Grace Darling"
  • Richard Armstrong: Grace Darling: Maid and Myth (1965)
  • Hugh Cunningham: Grace Darling – Victorian Heroine Hambledon: Continuum (2008) ISBN 978-1-85285-548-2
  • Thomasin Darling: Grace Darling, her True Story: from Unpublished Papers in Possession of her Family (1880)
  • Thomasin Darling: The Journal of William Darling, Grace Darling's Father (1887)
  • Eva Hope: Grace Darling – Heroine of the Farne Islands Walter Scott Publishing (1875)
  • Jessica Mitford: Grace Had an English Heart. The Story of Grace Darling, Heroine and Victorian Superstar (1998) ISBN 0-525-24672-X
  • Constance Smedley: Grace Darling and Her Times Hurst and Blackett (1932)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2016-06-04.
  2. (1998) Lifeboat Gallantry

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]