Gorsaf reilffordd Williton

Oddi ar Wicipedia

Mae Gorsaf reilffordd Williton yn orsaf ar Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf. Mae’r orsaf prif fan pasio’r rheilffordd, ac mae’n bron milltir o dref Williton. Mae gweithdy a chanolfan treftadaeth locomotifau diesel a thrydanol yn Williton.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd yr orsaf ar 31 Mawrth 1862 gyda un platfform. Ychwanegwyd ail blatfform a thrac ym 1874. Gweithredwyd y rheilffordd gan Reilffordd Bryste a Chaerwysg. Ym 1922 daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Great Western ac ym 1948 yn rhan y Rheilffyrdd Prydeinig. Caewyd y gangen ar 4 Ionawr 1971. Mae bwlch eang rhwng y traciau oherwydd lled gwreiddiol y traciau o 7 troedfedd yn ôl cynllun gwreiddiol Isambard Kingdom Brunel.[2]

Aileni[golygu | golygu cod]

Ailagorwyd y rheilffordd ar 28 Mawrth 1976, ac i Williton ar 28 Awst 1976.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan yr orsaf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-16. Cyrchwyd 2017-12-04.
  2. 2.0 2.1 "Gwefan yr orsaf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-02. Cyrchwyd 2017-12-04.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]