Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf
Minehead01LB.jpg
Lle Minehead, Gwlad yr Haf
Terfyn Minehead a Bishops Lydeard
Gweithrediadau masnachol
Adeiladydd Rheilffordd Minehead
Lled gwreiddiol
y cledrau
7 tr 0 14 modf (2,140 mm) hyd at 1882
Pethau sy'n parhau
Gweithredir gan Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf cyf
Gorsafoedd 11
Hyd 22.75 milltir (36.61 km)
Lled y cledrau a gadwyd 4 tr 8 12 modf (1,435 mm)
1862 Agorwyd rhwng Taunton a Watchet
1874 Agorwyd i Minehead
1882 Newid i 4 tr 8 12 modf (1,435 mm) lled safonol
1971 Wedi cau
Hanes ei chadwraeth
1973 Prynwyd rhyddfraint gan Gyngor Gwlad yr Haf
1975 Rhoddwyd Gorchymyn rheilffordd ysgafn
1976 Ailagorwyd rhwng Minehead a Williton
1978 Ailagorwyd i Stogumber
1979 Ailagorwyd i Bishops Lydeard
1987 Agorwyd gorsaf reilffordd Doniford
2009 Agorwyd gorsaf reilffordd Norton Fitzwarren
Pencadlys Y Cwmni: Minehead
Y Gymdeithas Bishops Lydiard
Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf
KBHFa
187+71 Minehead
BUE
187+50 Croesfan Seaward
BUE
186+24 Croesfan Gorllewin Dunster
HST
186+21 Dunster
BUE
186+09 Croesfan Sea Lane
BUE
184+37 Croesfan Blue Anchor
BHF
184+43 Blue Anchor
HST
182+11 Washford
ePSLl
dolen Kentford(1933 i 1964)
exCONTgq eKRZ2+ro exSTRc3
Rheilffordd fwynol Gorllewin Gwlad yr Haf
exKBSTaq
exSTR+4
Melin bapur Wansbrough
BSicon .svg HST exSTR
179+64 Watchet
BSicon .svg eKRWgl exKRWg+r
BSicon .svg STR exKBSTe
Harbwr Watchet
HST
178+75 Doniford
BHF
178+06 Williton
BUE
Croesfan Williton
HST
174+64 Stogumber
ePSLr
dolen Pont Leigh (1933 i 1964)
BHF
172+10 Crowcombe Heathfield
BHF
168+20 Bishops Lydeard
BSicon .svg ABZg2 STRc3
Cyffordd Allerford
BSicon .svg STR+c1 HST+4
165+43 Norton Fitzwarren (Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf)
ABZqr ABZg+r
Rheilffordd Dyfnaint a Gwlad yr Haf
BSicon .svg CONTgq ABZg+r
Lein Bryste i Gaerwysg
BSicon .svg BSicon .svg eBHF
Gorsaf reilffordd Norton Fitzwarren (GWR)
BSicon .svg BSicon .svg BHF
163+12 Taunton
BSicon .svg BSicon .svg STR
i Fryste a Llundain


Mae Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf yn rheilffordd dreftadaeth, 22.75-milltir (36.6 km) o hyd yng Ngwlad yr Haf, y rheilffordd dreftadaeth hiraf yn Lloegr. Perchennog y lein a'r gorsafoedd yw Cyngor Gwlad yr Haf, sydd wedi eu llogi nhw i Gwmni Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf cyf, sy'n gweithredu'r lein efo cefnogaeth Cymdeithas Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf.

Bishops Lydeard

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd cyfarfod yng Ngwesty Egremont, Williton ar 9 Gorffennaf 1856 i drafod rheilffordd rhwng Williton a Rheilffordd Bryste a Chaerwysg. Ystyriwyd twnnel trwy'r Bryniau Quantock, efallai i Bridgwater; ond awgrymodd Isambard Kingdom Brunel y buasai'r twnnel yn ddrud, ac awgrymodd reilffordd yn dilyn Nant Donibrook ac yn cysylltu â Rheilffordd Bryste a Chaerwysg yn Taunton. Cytunwyd ar derminws gogleddol yn Watchet. Trefnwyd arolwg gan Brunel, a phasiwyd deddf ar 17 Awst 1857, yn creu Cwmni Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf i adeiladu rheilffordd 14 milltir hyd at Watchet. Cyheoddwyd prospectws, yn disgwyl cludiant glo i Taunton a theithwyr i Dde Cymru. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 10 Ebrill 1859.[1] Lled y traciau oedd 7 troedfedd, yr un maint â Rheilffordd y Great Western ar y pryd. Agorwyd y rheilffordd o Norton Fitzwarren, ei cyffordd efo Rheilffordd y Great Western, a Watchet ym 1862. Trefnwyd y gwasanaethau trên gan y Great Western o'r cychwyn.[2]

Rheilffordd Minehead[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1874 Pasiwyd deddf i adeiladu rheilffordd rhwng Watchet a Minehead.[3] Agorwyd rheilffordd rhwng Watchet a Minehead ar 16 Gorffennaf 1874.[2][4]


Yn ystod ac ar ôl cyfnod Rheilffordd y Great Western[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth y 2 reilffyrdd yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1897. Gwladwyd y rheilffyrdd ym 1948. Caewyd y lein gan Reilffyrdd Prydeinig ym 1971.[2]


Atgyfodi[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd gwasanaethau'r reilffordd dreftadaeth ym 1976 rhwng Minehead a Blue Anchor, a hyd at Williton yr un flyddyn[2]. Erbyn hyn mae trenau'n rhwng Minehead a Bishops Lydeard rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd, yn cario mwy na 200,000 o deithwyr yn flynyddol. Weithiau, ers 1 Mawrth 2009, mae trenau wedi mynd mynd o Bishop's Lydeard i Norton Fitzwarren.[5]

Mae Canolfan ymwelwyr yn Bishops Lydeard, amgueddfa'r Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset yn Williton ac amgueddfa Rheilffordd y Great Western yn Blue Anchor[6].

Locomotifau[golygu | golygu cod y dudalen]

Locomotifau stêm[golygu | golygu cod y dudalen]

7828 'Norton Manor

GWR Dosbarth Manor 7828 'Norton Manor'

Cynllun Collett. Adeiladwyd yn Swindon ym 1950, efo'r enw 'Odney Manor'. Gwerthwyd i Iard sgrap Dai Woodham yn Y Barri. Aeth i Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn yn 90au, ac wedyn prynwyd y locomotif gan Reilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf. Ailenwyd 'Norton Manor' ar ôl pencadlyd 40 Comando yn Norton Fitzwarren.


GWR Dosbarth Manor 7820 'Dinmore Manor'

Adeiladwyd yn Swindon ym 1950. Prynwyd o Reilffordd Gwili. Atgyweirir yn Tyseley.


GWR Dosbarth Manor 7821 'Ditcheat Manor'

Mae angen atgyweirio; arddangosir yn Amgueddfa STEAM, Swindon.

Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset rhif 88

Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset dosbarth 7F 2-8-0 rhif 88

Adeiladwyd gan Robert Stephenson a'i Feibion ym 1925, a chafodd rif 53808 yng Nghyfnod Reilffyrdd Prydeinig. Aeth i Iard sgrap Dai Woodham ym 1963. Prynwyd gan Ymddiriodolaeth Rheilffordd Gwlad yr Haf a Dorset yn y 60au.

2-6-0 9351

2-6-0 9351

Cynlluniwyd y dosbarth yn 30au, ond heb eu adeiladu. Penderfynwyd gan y rheilffordd i greu un o locomotif arall, 'Prairie Mawr' rhif 5193.


Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 3850

Dosbarth 2884 rhif 3850

Addasiad Charles Collett o gynllun George Churchward, adeiladwyd yn Swindon ym 1942.Treuliodd 20 mlynedd yn Iard sgrap Dai Woodham cyn cyrraedd y rheilffordd yn y 80au.


Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 2874

Mewn storfa, yn disgwyl am atgyweiriad.

'Prairie mawr' 4160

Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 2850

Yn cael atgyweiriad yn Toddington.

Dosbarth 2884 GWR 8F 2-8-0 rhif 3845

Mewn storfa, yn disgwyl am atgyweiriad.

Dosbarth 5101 GWR 'Prairie mawr' 2-6-2T 4160

Adeiladwyd ym 1948 yn Swindon. Daeth i'r rheilffordd yn y 90au.

6960 'Raveningham Hall'

0-4-0ST 1788 'Kilmersdon'

Adeiladwyd gan gwmni Peckett ym Mryste ym 1929. Gweithiodd yng Nglofa Kilmersdon yng Ngwlad yr Haf. Cedwir yn Washford.


Dosbarth 'Hall' 4-6-0 6960 'Raveningham Hall'

Gweithredol.


Dosbarth 4500 GWR 'Prairie bach' 2-6-2T 4561

Cynllun Churchward. Yn disgwyl am atgyweiriad yn Williton.[7]


D1661

Locomotifau diesel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dosbarth 52 D1010 'Western Campaigner'[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o 74 o'r dosbarth, dyfneddiwyd ar drenau cyflym i deithwyr ac ar drenau'n cario meini o'r Bryniau Mendip.

Dosbarth 35 'Hymek' D7017 a 7018[golygu | golygu cod y dudalen]

Dau o'r 101 adeiladwyd gan Gwmni Beyer Peacock ym Manceinion. Atgyweirir yn Williton.

Dosbarth 14 'Teddy Bear' D8526[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd i gymryd lle'r locomotifau llai'r rheilffordd. Aeth rhai ohonynt i cwmniau breifat, yn achos D8526 i Sment Blue Circle yn Westbury.

Dosbarth 33 'Crompton' D6566 a D6575[golygu | golygu cod y dudalen]

Dau o 'r 98 adeiladwyd gan Gwmni Cerbyn a Wagen Birmingham.

Dosbarth 47 D1661 'North Star'[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd 512 o'r dosbarth yng Ngwaith Cryw a ffatri Brush yn Loughborough rhwng 1962 a 1968. Yn ddiweddaraf, daeth o'n rhif 47840.

Dosbarth 03 D2133[golygu | golygu cod y dudalen]

Locomotifau bychain oeddent, ar gyfer cledrau ysgafn neu grwm. Gweithiodd D2133 yn Taunton ac wedyn prynwyd gan British Cellophane ar gyfer eu rheilffyrdd preifat yn y dref. Rhoddwyd i reilffordd Gorllewin Gwlad yr haf pan caewyd leiniau'r cwmni. Defnyddir ym Minehead.

Dosbarth 09 0-6-0 rhif 09 019[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd 26 o'r dosbarth.

0-4-0 Loconotif Sentinel DH16[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd 18 ohonynt gan Gwmni Sentinel ar gyfer Cwmni Camlas Llongau Manceinion, lle gweithiodd DH16 hyd at 1971. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn Awst 2001.

0-6-0 rhifau 1 a 2[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd gan Gwmni Andrew Barclay yn Kilmarnock ar gyfer ffatri ordnans yn Bridgwater ym 1962. Cyrhaeddent y rheilffordd ym 1994.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]