Gorsaf reilffordd Pilning
Mae Gorsaf reilffordd Pilning yn orsaf ar brif linell De Cymru ger Pilning, De Swydd Gaerloyw, 10 milltir o Fryste, yr orsaf olaf cyn Twnnel Hafren. Rheolir yr orsaf gan Reilffordd y Great Western. Mae 2 drên yn unig o’r orsaf bob wythnos.
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorwyd gorsaf ym 1863 gan Reilffordd Union Bryste a De Cymru, ond symudwyd yr orsaf ym 1886 pan agorwyd Twnnel Hafren. Roedd gan yr orsaf iard nwyddau mawr, ac roedd gwasanaeth Motorail i Gymru.
Ailagorwyd yr orsaf wreiddiol ar Linell Traeth Hafren, yn caniatáu cyrhaeddiad teithwyr a nwyddau i Dociau Avonmouth hyd at 1964.
Caewyd yr iard nwyddau ym 1965, a dymchwelwyd adeiladau’r orsaf. Roedd ond 2 drên yn ddyddiol erbyn y 70au, ac ond 2 drên yn wythnosol o 2006 ymlaen.Dymchwelwyd y bont rhwng y platfformau yn 2016, a dim ond trenau i’r dwyrain yn defnyddio’r orsaf erbyn hyn.
Rheilffordd Union Bryste a De Cymru
[golygu | golygu cod]Agorwyd gorsaf reilffordd Pilning ar 8 Medi 1863, pan ddechreuodd gwasanaethau ar Reilffordd Union Bryste a De Cymru. Aeth y rheilffordd o orsaf reilffordd Temple Meads, Bryste i orsaf reilffordd Pier New Passage ar lannau Hafren, lle oedd fferi dros yr afon i De Cymru.[1]
Gorsaf reilffordd Pilning (High Level)
[golygu | golygu cod]Er bod y reilffordd wedi gwneud teithio o Fryste i Gaerdydd yn haws, roedd mynd o drên i fferi i drên yn anghyfleus, felly ystyriwyd adeiladu twnnel o’r dechrau. [2][3] Rhoddwayd caniatád y llywodraeth ym 1872, yn dechrau adeiladu ym 1873.[4]. Daeth Daniel Gooch, cadeirydd Rheilffordd y Great Western i Pilning ym 1884 i arolygu’r gwaith.[5] Gadawodd y rheilffordd newydd o’r un wreiddiol i’r dwyrain o orsaf wreiddiol Pilning, felly roedd rhaid adeiladu un newydd ar y rheilffordd newydd. Agorwyd yr orsaf newydd ar 1 Rhagfyr 1886, a chaewyd yr hen orsaf ar yr un diwrnod,[6] er cedwyd yr hen reilffordd ar gyfer trenau glo i orsaf bwmpio twnnel hafren.[7]
Roedd yr orsaf newydd ar arglawdd, a gyda threigl amser cafodd yr enw ‘Pilning High Level’. I’r gorllewin roedd hafn yn arwain at dwnnel Hafren. Roedd 2 blatfform[8]. Roedd adeiladau’r orsaf i gynllun safonol Rheilffordd y Great Western, er yn wahanol i weddil yr orsafoedd ar y llinell. Roedd prif adeiladu’r orsaf, swyddfa’r gorsaf-feistr, swyddfa docynnau, swyddfa barselau a thoiledau, ar y platfform gogleddol. Roedd ystafell aros ar y platfform arall.[9] Adeiladwyd y platfformau gyda phren, gyda seddi pren a goleuadau nwy. Roedd pont rhwng y platfformau. Roedd 30 o bobl yn geithio yno ym 1905; 14 dyn signal, 6 dyn signal/porter, 8 porter, arolygwr twnnel a’r gorsaf-feistr. Rhoddwyd hyfforddiant cymorth cyntaf gan Frigâd Ambiwlans Sant Ioan ac roedd seremoni gwobrau blynyddol.[10]
Cafodd yr orsaf iard nwyddau mawr, yn cynnwys ffald gwartheg a chilfach llwytho ar ben dwyreiniol y platfform gogleddol. Crewyd llinell i drenau nwyddau rhwng yr orsaf a’r gyffwrdd ym 1904, un arall i’r de o’r orsaf ym 1905 ac un arall i’r gorllewin ym 1906. Roedd 2 focs signal; Bocs yr orsaf ar ben gorllewinol y platfform deheuol gyda 54 o wifau, a Bocs y Gyffwrdd ar ben dwyreiniol y iard nwyddau gyda 68 o wifau. Adolygwyd wagenni yn y iard nwyddau cyn mynd trwy’r twnnel, ac yno safodd locomotif rhag ofn oedd problemau yn y twnnel. Rhoddwyd fan frecio ychwanegol i drenau nwyddau trymion. Cedwyd locomotifau eraill yno i wthio trenau i fyny’r lledf rhwng y twnnel a Patchway.
Rheilffordd Brydeinig
[golygu | golygu cod]Daeth Pilning yn rhan o Ardal Gorllewinol y Rheilffordd Brydeinig ym 1948[11]. Ym 1949 roedd 7 trên i De Gymru ac 6 i Fryste bob dydd, a 2 ar Suliau yn y 2 gyfeiriad. Roedd 5 trên arall i Fryste o’r orsaf Low Level, a 7 i Severn Beach, rhai ohonynt yn mynd ymlaen at Fryste trwy Gorsaf reilffordd Avonmouth.[12] Daeth y wasanaeth i deithwyr rhwng Severn Beach a Pilning i ben ar 23 Tachwedd 1964, a chaewyd Gorsaf reilffordd Pilning (Low Level) platform[13]. Caewyd y rheilffordd i wasanaethau nwyddau ar 1 Medi 1968. Cedwyd y cledrau a bocs signal hyd at Awst 1970.
Aeth Gorsaf reilffordd Pilning (lefel Uwch) yn ôl i’w hen enw, Pilning, ar 6 Mae 1968. Adeiladwyd adeilad newydd ar y platfform gogleddol yn ystod y 1950au, ond dymwelwyd to a waliau’r bont i deithwyr. Caewyd yr iard nwyddau ar 29 Tachwedd 1965 a byrhawyd y llinellau ar gyfer trenau nwyddau yn mynd at y twnnel yn Chwefror 1968. a chafwyd gwared â’r llinell arall at y gyffordd ym Mai 1969. Caewyd y 2 focs signal ar 15 Mawrth; rheolwyd yr orsaf o focs yn Temple Meads.[14]. Roedd 9 neu 10 trên yn ddyddiol yn y 2 gyfeiriad rhwng Llun a Sadwrn, a 2 ar Suliau, ond erbyn 1973 roedd ond un drên yn dyddiol yn y 2 gyfeiriad.[15]
Erbyn hyn, roedd adeiladau’r orsaf wedi cau, ac wedi dymchwel erbyn 1982, heblaw am yr adeiladad o’r 1950au, a disodlwyd gan cysgodfanau syml ar y 2 blatfform. Datgysylltwyd y goleuadau.
Preifateiddiad
[golygu | golygu cod]Preifateiddiwyd rhwydwaith Prydain yn ystod y 1990au. Daeth y cledrau, gorsafoedd ac ati yn eiddo i Railtrack ym 1994 ac wedyn Network Rail yn 2002. [16][17] Daeth gwasanaethau i deithwyr yn ardal Bryste yn rhan o Wales & West ym 1997,ac wedyn Wessex Trains, yn rhan o gwmni National Express, yn 2001.[18] [19]
Daeth Wessex yn rhan o’r Rheilffordd Greater Western yn 2006, a daeth Greater Western yn [[Rheilffordd Great Western yn 2015.[20][21][22][23] Roedd 2 drên yn ddyddiol yn ystod y cyfnodau Wales & West a Wessex, ond 2 yn wythnosol, ar ddydd sadwrn, o 2006 ymlaen.[24][25][26] Defnyddiwyd yr orsaf gan llai na 100 o deithwyr yn flynyddol.[27]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae 3 thrac trwy’r orsaf; cyfyngir cyflymder trenau i 90 milltir yr awr trwy’r orsaf ar y 2 brif drac, ac i 40 ar y trac arall.[28]. Mae’r llinell wedi trydaneiddio. Dim ond platfform 1 sy’n agor i’r cyhoedd; dydy platfform ddim yn gyrhaeddadwy i’r cyhoedd ers dymchweliad y bont. Mae lloches bach ar gael, ac mae gwybodaeth am gwasanaethau, ond dim ffordd o brynu tocynnau. Mae maes parcio ar gyfer 10 car a 4 beic, ac mae ffôn.
Grŵp Gorsaf Pilning
[golygu | golygu cod]Mae Pilning un o’r gorsafoedd llai brysur ym Mhrydain. Mae llai na 50 o deithwyr yn flynyddol sawl gwaith rhwng 1997 a 2015. Mae Grŵp Gorsaf Pilning wedi cynnal ymgyrchoedd, ond erbyn 2017/18 mae’r orsaf dal yn weddol dawel.[29]
Gwasanaeth
[golygu | golygu cod]Rheolir yr orsaf gan Reilffordd Great Western. Stopiodd ond 2 drên yn wythnosol yn stopio yn 2019 yn Pilning, sef y drên 08.33 o Gaerdydd i Penzance a’r drên 14.33 i Taunton ar ddydd Sadwrn. Rhaid i deithwyr o’r Dwyrain fynd trwy Pilning i orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren er mwyn dychwelid i Pilning ar drên sy’n stopio yno.[30]
Mae gwasanaethau Rheilffordd Great Western rhwng Paddington a Chaerdydd yn mynd trwy’r orsaf heb stopio, trwy’r dydd, dwywaith bob awr yn y ddau gyfeiriad rhwng Llun a Gwener, ac unwaith bob awr dros benwythnosau.[31] Mae hefyd gwasanaethau Rheilffordd Great Western rhwng Caerdydd a Taunton neu [[Gorsaf reilffordd Harbwr Portsmouth|Harbwr Portsmouth, sy’n pasio trwodd heb stopio dwywaith bob awr yn y ddau gyfeiriad rhwng Llun a Gwener, ac unwaith bob awr dros benwythnosau. Mae hefyd trenau nwyddau niferus.[32]
Ym 1910 cychwynnodd Rheilffordd Great Western wasanaeth Motorail trwy Dwnnel Hafren rhwng Pilning a Chyffwrdd Twnnel Hafren, yn cario teithwyr a’u ceir. Roedd 2 neu 3 o drenau’n ddyddiol. Parhaodd y wasanaeth hyd at agoriad Pont Hafren ym 1966, heblaw am cyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth y trên olaf ar 6 Hydref 1966.
Sefydlwyd Grŵp Gorsaf reilffordd Pilning gan ddyn lleol, Jonathan King yn y 1980au, yn ymgyrchu dros gynnydd y nifer o drenau.[33]. Crewyd heriau i adael Pilning ar drên y bore, ymweld â chymaint o orsafoedd â phosibl, cyn dychwelyd ar drên y noswaith.[34] Ymgyrchodd y grŵp yn llwyddiannus am drên ychwanegol i gefnogi gŵyl gerddoriaeth leol.[35]
Dymchwelwyd y bont i deithwyr ar 5 Tachwedd 2016 i hwyluso trydanu’r rheilffordd.[36][37][38][39] Caewyd un platform ar ôl dymchwel y bont, ac ymddiheurodd Network Rail.[40][41]
Oherwydd bod trenau’n stopio ond ar eu ffordd i’r dwyrain, llehawyd prisiau tocynnau i hwyluso’r daith i Gyffwrdd Twnnel Hafren ac yn ôl i Pilning.[42][43] Roedd ymgyrch i symud pont i deithwyr o Gorsaf reilffordd Heol Angel ar ôl cae’r orsaf yno, ond gwrthodwyd y cais oherwydd y cost.[44]
Y Dyfodol
[golygu | golygu cod]Mae ‘r grwpiau “Ffrindiau Gorsaf reilffordd Pilning” a “Ffrindiau Rheilffyrdd Ardal Bryste” wedi ymgyrchu dros gwasanaeth well[45], ond mae Rheilffordd y Great Western yn mynnu y buasai trenau lleol yn stopio yn Pilning achosi problemau i threnau traws-gwlad. Mae’r cynllun Dolen Fusnes De-ddwyrain Cymru a Gorllewin Lloegr yn awgrymu symud yr orsaf bresennol 900 medr i’r gorllewin, i safle well gyda lle i cysylltiadau gyda bysiau. Mae 4 trac yno, felly lle i drenau cyflym i basio trenau yn yr orsaf.[46]
Disgwylir bod 10 trên i deithwyr a thuag at 2 drên nwyddau yn mynd trwy’r orsaf yn y 2 gyfeiriad bob awr hyd at 2043. Buasai hi’n bosibl rhedeg 15 trên yr awr yn y 2 gyfeiriad bob awr yn ôl Network Rail pe tasai’r System Rheoli Trenau Ewropiaidd ar gael.[47]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bristol Railway Panorama gan Colin Maggs, cyhoeddwyr Llyfrau Millstream
- ↑ Bristol Railway Panorama gan Colin Maggs, cyhoeddwyr Llyfrau Millstream
- ↑ Archif Papurau Newydd Prydeinig, 25 Tachwedd 1864
- ↑ Gwefan engineering-timelines.com
- ↑ Archif Papurau Newydd Prydeinig, 28 Gorffennaf 1884, Gloucester Citizen
- ↑ Gwefan britishnewspaperarchive.co.uk; Western Daily Press
- ↑ ’Lost Railways of Somerset’ gan Stan Yorke; cyhoeddwyr Llyfrau Countryside
- ↑ Western Main Lines: Swindon to Newport gan Vic Mitchell; cyhoeddwyr Gwasg Middleton Press, Midhurst; isbn=1 904474 30 6
- ↑ Bristol Railway Panorama gan Colin Maggs, cyhoeddwyr Llyfrau Millstream
- ↑ Gwefan British News Archive, Western Daily Press, 30 Rhagfyr 1937:Pilning Railway Ambulance: Concert and presentation of awards
- ↑ The Bristol Port Railway and Pier gan Colin Maggs, 1975; Cyhoeddwyr: Gwasg Oakwood
- ↑ "Amserlen Ardal Gorllewinol 1949". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-19. Cyrchwyd 2021-11-23.
- ↑ The Bristol Port Railway and Pier gan Colin Maggs, 1975; Cyhoeddwyr: Gwasg Oakwood
- ↑ The South Wales Direct Line: History and Working gan P.D. Rendall, isbn=978-1-84797-707-6, Gwasg Crowood, Ramsbury, 2014, tud. 67–75, 149–153, 167, 184–185, 193
- ↑ "Amserlen yr ardal gorllewinol 1965". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-09. Cyrchwyd 2021-12-05.
- ↑ Gwefan BBC ‘Watchdog attacks rail regulator’, 12 Ebrill 2000
- ↑ Gwefan BBC:’Network Rail, not Railtrack’ 19 Tachwedd 2004
- ↑ Gwefan railwaycodes.org.uk, 5 Mai 2015
- ↑ Gwefan Wales and West, 14 Mawrth 2012
- ↑ Gwefan The Iron Road
- ↑ [http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/4523592.stm Gwefan BBC
- ↑ Gwefan BBC
- ↑ Gwefan Railnews[dolen farw]
- ↑ ’The Railway Adventures: Places, Trains, People and Stations’ gan Vicki Pipe a Geoff Marshall, 2018, cyhoeddwyd gan September Publishing, isbn=978-1-910463-87-1 |tud.15, 25–127
- ↑ Genedlaethol y Rheilffyrdd, Rhagfyr 2007-Mai 2008[dolen farw]
- ↑ https://publications.parliament.uk/pa/cm200607/cmhansrd/cm061130/debtext/61130-0015.htm Gwefan Hansard: Ty Cyffredin, 30 Tachwedd 2006]
- ↑ Gwefan Office of Rail and Road
- ↑ SectionalAppendixWR
- ↑ Gwefan Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd
- ↑ Gwefan National Rail;gwybodaeth am gyrraedd Pilning
- ↑ Amserlen GWR, 19 Mai-14 Rhagfyr 2019[dolen farw]
- ↑ "Gwefan Network Rail" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-09-09. Cyrchwyd 2021-09-09.
- ↑ Llyfr"All The Stations Book"
- ↑ Llyfr"All The Stations Book"
- ↑ "Cylchgrawn'News from Pilning Station' gan Olga Taylor" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-10-15. Cyrchwyd 2022-01-14.
- ↑ [http://www.gazetteseries.co.uk/news/14587196.Rail_platform_and_footbridge_set_for_closure_in_Pilning/ Gwefan South Cotswolds Gazette
- ↑ https://web.archive.org/web/20180803014517/https://cdn.networkrail.co.uk/wp-content/uploads/2016/12/diversity-impact-assessment-pilning-station.pdf Gwefan Network Rail, archifwyd 3 Awst 2018
- ↑ Gwefan South Cotswolds Gazette 20 Awst 2016
- ↑ "Gwefan Friends of Suburban Bristol Railways, Hydref 2016" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-10-15. Cyrchwyd 2022-01-26.
- ↑ "Gwefan Friends of Suburban Bristol Railways" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-08-03. Cyrchwyd 2022-01-26.
- ↑ Nodiadau o gyfarfod rhwng Network Rail, GWR a Chyngor Plwyf Pilning a Severn Beach, 22 Medi 2016
- ↑ “All the Stations” ar YouTube
- ↑ Gwefan newyddion ITV, 25 Mehefin 2017
- ↑ Gwefan assets.publishing.service.gov.uk
- ↑ "Cylchgrawn rhif 99, Ffrindiau Rheilffyrdd Ardal Bryste, Ionawr 2019" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-10-15. Cyrchwyd 2022-02-15.
- ↑ Dolen Fusnes De-dwyrain Cymru a Gorllewin Lloegr, 18 Ebrill 2018
- ↑ "NRWesternRouteStudy", tt.30, 70, 76, 87