Gorsaf reilffordd Pilning (Low Level)

Oddi ar Wicipedia

Roedd Gorsaf reilffordd Pilning (Low Level) yn orsaf ar gangen Rheilffordd y Great Western yn Pilning, De Swydd Caerloyw.

Adeiladodd Rheilffordd y Great Western gangen o’i llinell i Gorsaf reilffordd New Passage i Ddociau Avonmouth ym 1900, er mwyn osgoi prysurdeb ei llinell arall rhwng Bryste ac Avonmouth.[1] Roedd gan yr orsaf 2 drac a 2 seidins. Roedd un platfform byr o bren a dim adeiladau. Gwerthwyd tocynnau yng Ngorsaf reilffordd Pilning (High Level). Adeiladwyd bocs signal ger y croesfan yn 1917. Agorwyd Gorsaf reilffordd Severn Beach ym 1922 oherwydd poblogrwydd y traeth a dechreuwyd gwasanaeth i deithwyr trwy Pilning ar 23 Mehefin 1928.[2][3] Agorwyd Pilning (Low Level) ar 9 Gorffennaf 1928. Roedd 9 trên dyddiol yn ystod yr wythnos a 4 ar ddyddiau Sul. Erbyn 1959 roedd gan yr orsaf eilad bach a goleuadau.

Ym 1959, Roedd 5 trên arall i Fryste o’r orsaf (Low Level), a 7 i Severn Beach, rhai ohonynt yn mynd ymlaen at Fryste trwy Gorsaf reilffordd Avonmouth.[4] Daeth y wasanaeth i deithwyr rhwng Severn Beach a Pilning i ben ar 23 Tachwedd 1964, a chaewyd Gorsaf reilffordd Pilning (Low Level) platform[5]. Caewyd y rheilffordd i wasanaethau nwyddau ar 1 Medi 1968. Cedwyd y cledrau a bocs signal hyd at Awst 1970.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Branch Lines of Gloucestershire gan Colin Maggs; cyhoeddwr Alan Sutton Publishing, Stroud; 1991; tud. 134; isbn=0-86299-959-6
  2. Archif papurau newydd Prydeinig; Westen Daily Press, 17 June 1927
  3. Great Western Railway Halts, Cyfrol 2 gan Kevin Robertson, 2002; cyhoeddwyr KRB, Bishop’s Waltham isbn=0-9542035-2-6
  4. "Amserlen Ardal Gorllewinol 1949". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-19. Cyrchwyd 2021-11-23.
  5. The Bristol Port Railway and Pier gan Colin Maggs, 1975; Cyhoeddwyr: Gwasg Oakwood
Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.