Gorsaf reilffordd James Street Lerpwl
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1886 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Lerpwl |
Sir | Dinas Lerpwl |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.4048°N 2.9919°W |
Cod OS | SJ341902 |
Rheilffordd | |
Côd yr orsaf | LVJ |
Rheolir gan | Merseyrail |
Perchnogaeth | Network Rail |
Mae gorsaf reilffordd James Street Lerpwl (Saesneg: Liverpool James Street) yn orsaf danddaearol ar rwydwaith Merseyrail, ynghanol Lerpwl.
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorodd yr orsaf ar 1 Chwefror 1886.
Gwasanaethau
[golygu | golygu cod]Mae pob trên sy'n gwasanaethu'r orsaf yn cael ei weithredu gan Merseyrail. Mae trenau'n gweithredu bob pum munud o amgylch dolen canol dinas Lerpwl i Moorfields, Lime Street Lerpwl a Lerpwl Canolog. I'r cyfeiriad arall, mae trenau'n gweithredu bob pum munud i Sgwâr Hamilton Penbedw, ac oddi yno maen nhw'n parhau bob 15 munud i bob un o New Brighton a West Kirby gyda chwe thrên yr awr i Hooton. O Hooton, mae trenau'n parhau bob 15 munud i Gaer a phob 30 munud i Ellesmere Port. Ar adegau eraill, mae trenau'n gweithredu bob 30 munud i bob un o'r pedwar cyrchfan, gan roi gwasanaeth bob 5–10 munud i Sgwâr Hamilton Penbedw.