Gorsaf Bŵer Pont Ceunant

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Adfeilion Gorsaf Bŵer Pont Ceunant, Ceredigion

Gorsaf bŵer hydro-electrig a oedd wedi lleoli rhwng Abermagwr a Phont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion ar droad yr 20g oedd Gorsaf Bŵer Pont Ceunant. Hon oedd yr orsaf hydro-electrig gyntaf yng Nghymru. Cafodd ei hadeiladu yr orsaf gan gwmni mwyngloddio o wlad Belg a oedd wedi dod i'r ardal yn 1898 i gloddio plwm o fwyngloddiau cyfagos Frongoch a Wemyss. Roedd y dwr yn dod o gronfa uwchlaw'r safle ac yn llifo lawr piben 50cm o ddiamedr ac yn troi olwyn Pelton 400 marchnerth a fedrai gynhyrchu 300 cilowat o drydan. Roedd yno hefyd injan stêm chwe silindr wrth gefn a fyddai wedi ei phweru ā glo. Roedd y trydan yn cael ei gyflenwi i'r mwyngloddfeydd gan ddefnyddio ceblau uwchben.

Roedd tua 270 o weithwyr wedi'u cyflogi gan y mwyngloddfeydd ar droad yr 20g, ac mae'n debyg bod nifer ohonynt yn Eidalwyr. Pum mlynedd yn unig y parodd y fenter; caewyd y mwyngloddfeydd yn 1903, diswyddwyd y gweithwyr a gwerthwyd y peiriannau.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Y tu fewn i adfeilion Gorsaf Bŵer Pont Ceunant, Ceredigion, o'r gogledd
Adfeilion Gorsaf Bŵer Pont Ceunant, Ceredigion, yr ochr orllweinol o gyfeiriad y gogledd

Adfeilion Gorsaf Bŵer Pont Ceunant, Ceredigion, yr ochr ddwyreiniol o'r gogledd-ddwyrain.jpg