Gorffen Nos (albwm)
Gorffen Nos | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Yr Angen | ||
Rhyddhawyd | Rhagfyr 2011 | |
Label | Sbrigyn Ymborth |
Albwm cyntaf y grŵp Cymraeg Yr Angen yw Gorffen Nos. Rhyddhawyd yr albwm yn Rhagfyr 2011 ar y label Sbrigyn Ymborth.
Fe greodd y grŵp ifanc o Abertawe gryn argraff wrth ddod i’r brig yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 2010. Roedd cryn edrych ymlaen at albwm cyntaf Yr Angen, a daeth hwnnw i’r golwg ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’n cynnwys yr hit ‘Nawr mae drosto’ a syfrdanodd feirniaid Brwydr y Bandiau, yn ogystal â’r caneuon cofiadwy ‘Boi Bach Skint’ a ‘Torri ni Lawr’.
Dewiswyd Gorffen Nos yn un o ddeg albwm gorau 2011 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth[golygu | golygu cod]
Mae yna asbri ieuenctid yn perthyn i’w roc indi bywiog ac mae’n beth braf clywed acen newydd hefyd i’n hatgoffa ni bod yna sin tu hwnt i Gaerdydd a’r gogledd. Mae o’n uchel, yn gyflym ac yn llawn solos gitâr
—Gwilym Dwyfor, Y Selar