Glewlwyd Gafaelfawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ymddengys Glewlwyd Gafaelfawr yn chwedl Culhwch ac Olwen fel prif borthor llys Arthur. Dywed ei fod yn gwasanaethu fel porthor i'r llys bob Dydd Calan, ond fod ganddo ddirprwyon ar adegau eraill. Ymddengys fel porthor Arthur hefyd yn chwedl ddiweddarach Iarlles y Ffynnon, ond yma dywedir mai ef sy'n derbyn gwesteion i'r llys trwy gydol y flwyddyn.

Yn y gerdd gynnar Pa Gwr yw y Porthawr yn Llyfr Du Caerfyrddin, cerdd a ddyddir tua'r 10g, mae Glewlwyd yn borthor caer y mae Arthur a Cei yn ceisio mynediad iddi, yn hytrach na bod yng ngwasanaeth Arthur. Cred rhai fod yma olion fersiwn cynharach o chwedl am Cei yn ceisio mynediad i lys Wrnach Gawr.

Ceir enw Glewlwyd Gafaelfawr yn y rhestr mnemonig o Bedwar Marchog ar Hugain Llys Arthur, sy'n tynnu ar yr un ddysg draddodiadol sy'n sail i'r casgliad Trioedd Ynys Prydain. Roedd yn un o'r 'Tri Gwrthnifiad ["Ystyfnig"] Marchog' yn llys Arthur, gyda Morfran eil Tegid a Sanddef Bryd Angel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960; argraffiad newydd 1999).
  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).