Glasthule

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Glasthule / / ˈɡlæs θ uːl / ; Gwyddelig Glas Thule sef "Nant O'Toole" Maestref o Ddulyn Iwerddon) ar arfordir ddeheuol Sir Dulyn, rhwng Dún Laoghaire a Dalkey .

Mwynderau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o fusnesau ac amwynderau yn gwasanaethu Sandycove a Glasthule, gan gynnwys siopau manwerthu, tafarndai, swyddfa bost, bwytai, caffis ac ysgol feithrin. 

Mae’r Presentation Brothers yn cynnal tŷ yn Glasthule a hyd at 2006, Glasthule Presentation College, a oedd yn ysgol uwchradd i fechgyn. Mae Ysgol Genedlaethol Harold, drws nesaf i Presentation Brothers yn dal i weithredu heddiw.

Mae gwasanaeth Aircoach yn cysylltu'r ardal â Maes Awyr Dulyn 24 awr y dydd.

Diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Pob blwyddyn ar 16 Mehefin mae Glasthule yn dathlu Bloomsday (y diwrnod y mae nofel James Joyce, Ulysses yn cymeryd lle). Lleolir Tŵr James Joyce yn Sandycove gerllaw.

Dyma'r prif leoliad ar gyfer nofel Jamie O'Neill yn 2001 At Swim, Two Boys .

Gweld hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rhestr o drefi a phentrefi yn Iwerddon
  • Gorsaf reilffordd Sandycove a Glasthule